Oasis yn 'mynegi pryderon' am gynlluniau mab cyn-beiriannydd sain y band i werthu archif o recordiadau

Oasis PA

Mae Oasis wedi "mynegi pryderon" am gynlluniau mab cyn-beiriannydd sain y band, Huw Richards, i werthu archif helaeth o recordiadau o'r 1990au.

Mae Owain Richards yn bwriadu gwerthu’r casgliad - sy’n cynnwys recordiadau o 63 o gyngherddau byw, gwiriadau sain a mwy na 100 awr o ymarferion gan Noel a Liam Gallagher a gweddill y band - mewn arwerthiant ar 3 Hydref.

Bu ei dad Huw Richards yn gweithio gyda Oasis rhwng 1994 a 2001, gan ddechrau gyda rhyddhau albwm cyntaf y band, Definitely, Maybe.

Yn ystod ei amser gyda'r band, bu'n gweithio ar rai o’u cyngherddau mwyaf, gan gynnwys y ddau gyngerdd enwog yn Knebworth ym mis Awst 1996.

Mae’r casgliad, sy’n cael ei adnabod fel The Desk Tapes, wedi’i recordio’n uniongyrchol gan Richards o’r bwrdd sain.

Mae Littleton Auctions wedi disgrifio’r recordiadau fel "yr unig archif feistr o’i bath sy’n bodoli".

Ond mae’r cwmni arwerthu wedi cadarnhau nad yw Oasis yn cefnogi’r gwerthiant.

'Rhan o'r teulu'

Dywedodd Owain Richards iddo dyfu i fyny yn gwrando ar y recordiadau.

"Roedd Dad yn labelu popeth, yn recordio popeth ac yn gwneud copïau wrth gefn o’r cyfan ar gasét, dro ar ôl tro," meddai.

"Fe wnes i dyfu i fyny yn gwrando ar y recordiadau hyn.

"Roedd Oasis yn rhan o’r teulu gymaint ag yr oedden nhw’n rhan o ddiwylliant."

Fe aeth ymlaen i ddweud fod y tapiau wedi bod yn ei ofal am yr 20 mlynedd diwethaf, ond ei bod bellach yn teimlo fel yr "amser iawn i’w trosglwyddo i bobl a fydd yn deall yn union beth ydyn nhw".

Mewn datganiad, dywedodd Ben Homer, rheolwr-gyfarwyddwr Littleton Auctions: "Mae tîm Oasis yn ymwybodol o’r arwerthiant ac wedi mynegi pryderon; mae hynny’n hollol ddealladwy o ystyried maint ac arwyddocâd y deunydd.

"Rydym yn delio â phopeth yn gwbl dryloyw ac yn unol â’r broses gyfreithiol briodol.

"Ein ffocws ni yw cyflwyno’r eitemau hyn yn gyfrifol, gyda hanes perchnogaeth wedi’i wirio, a rhoi cyfle i gasglwyr a sefydliadau ymgysylltu â rhan bwysig o hanes cerddoriaeth Prydain."

Yn ogystal â’r tapiau, mae’r eitemau yn cynnwys rhestrau caneuon gwreiddiol, amserlenni teithiau, gitâr Epiphone, a chôt Oasis Tour gan Kangol.

Mae The Times wedi adrodd na fyddai’r sawl sy’n prynu’r archif yn gallu gwneud defnydd masnachol ohoni heb gydweithrediad Oasis.

Mae hynny oherwydd bod y band yn cadw’r hawliau eiddo deallusol.

Ffilm newydd

Daw’r newyddion wrth i Noel a Liam Gallagher ymddangos yng Ngŵyl Ffilm Fenis ddydd Sadwrn.

Roedden nhw yno ar gyfer première byd Oasis: Don’t Look Back In Anger.

Mae’r ffilm, sydd wedi’i hysgrifennu gan Steven Knight, awdur Peaky Blinders, yn gyfuniad o ffilm gyngerdd a rhaglen ddogfen.

Mae’n dilyn Oasis ar eu taith aduniad, a ddechreuodd yng Nghaerdydd ym mis Gorffennaf y llynedd.

Er bod sïon wedi bod yn ddiweddar am daith arall, nid oes dyddiadau na lleoliadau wedi’u cyhoeddi’n swyddogol.

Daeth y band i ben yn 2009 ar ôl blynyddoedd o densiwn rhwng y brodyr.

Mae Oasis wedi cael wyth sengl ac wyth albwm rhif un yn y DU.

Mae cynrychiolwyr Oasis wedi cael cais am sylw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.