Portsmouth: Swyddogion yr heddlu wedi eu hanafu mewn protest asgell dde

Portsmouth PA

Mae'r heddlu'n dweud fod nifer o swyddogion wedi eu hanafu ac fe gafodd cerbydau eu difrodi yn ystod gwrthdaro â phrotestwyr asgell dde oedd yn gwisgo mygydau yn Portsmouth.

Mae Heddlu Hampshire ac Ynys Wyth wedi lansio ymchwiliad i achosion o ymosod a difrod troseddol honedig, ar ôl i brotestwyr mewn dillad du geisio rhwystro mudwyr rhag cael eu cludo i o Portsmouth dros nos Sul.

Dywedodd yr heddlu mewn datganiad brynhawn Llun fod tua 200 o unigolion wedi gadael y ddinas tua 04:00 y bore.

"Nid oes lle i drais na difrod troseddol mewn protest heddychlon," meddai'r datganiad.

Fe wnaeth y protestwyr rwystro ffyrdd am oriau ac addo aros drwy’r nos wedi i 140 o fudwyr gyrraedd y ddinas mewn un cwch.

Protest Dover

Dyma’r ail brotest fawr yn erbyn mudwyr dros y penwythnos, wedi i dorfeydd mawr o ddynion mewn dillad du a masgiau rwystro’r ffyrdd i Borthladd Dover ddydd Sadwrn.

Fore Llun, dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth eu bod nhw’n “condemnio’r ymddygiad bygythiol a threisgar rydyn ni’n ei weld heno”.

“Mae’r hawl i brotestio’n heddychlon yn rhan sylfaenol o’n democratiaeth, ond ni ddylai fyth arwain at anhrefn.

“Rydyn ni’n diolch i’r gwasanaethau brys sy’n gweithio i reoli’r sefyllfa hon yn ddiogel.”

Roedd llawer o’r bobl yn Portsmouth yn gwisgo dillad du a masgiau, yn debyg i’r rhai oedd yn y brotest yn Dover.

Fe wnaeth Heddlu Hampshire annog pobl i osgoi’r ardal a dweud bod gorchymyn gwasgaru mewn grym.

Rhwystro traffig 

Dywedodd y protestwyr eu bod yn benderfynol o atal yr awdurdodau rhag cludo’r mudwyr i ganolfan brosesu Manston yng Nghaint.

Fe wnaethon nhw rwystro traffig ar hyd y ffordd sy’n arwain o Farina Eastney.

Roedd lluniau’n dangos swyddogion yr heddlu gyda tharianau terfysg yn ffurfio llinell ac yn diogelu nifer o fysys oedd wedi’u parcio yno.

Wrth ffrydio’n fyw o’r môr oddi ar draeth Eastney, dywedodd Daniel Thomas, sy’n cael ei adnabod fel Danny Tommo: “Mae’r holl ffyrdd wedi’u cau. Fyddan nhw byth yn gallu gadael fan hyn.”

Mae Danny Tommo yn ffrind i’r ymgyrchydd asgell dde Tommy Robinson.

Dywedodd y Cynghorydd George Madgwick, arweinydd Reform UK yn Hampshire, ar X fod “dros 100 o fudwyr gwrywaidd” wedi cyrraedd glannau Portsmouth ddydd Sul.

Dywedodd arweinydd Reform UK, Nigel Farage: “Yr wythnos hon, daeth Andy Burnham i gytundeb i gael 45 yn rhagor o swyddogion ar draethau Ffrainc.

“Heddiw, fe wnaeth cwch gychwyn o Baie de Seine, 170 milltir o Calais, a chyrraedd traethau Hampshire am y tro cyntaf erioed.

“Mae hyn yn jôc. Dim ond Reform fydd yn anfon y cychod yn ôl.”

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.