Nigel Farage wedi cael ei holi gan y Comisiynydd Safonau dros rodd gwerth £5m
Mae arweinydd Reform UK, Nigel Farage, wedi cael ei holi gan y Comisiynydd Safonau mewn cysylltiad ag ymchwiliad i a ddylai fod wedi datgan rhodd gwerth £5 miliwn gan y biliwnydd crypto Christopher Harborne.
Fe ailddechreuodd yr ymchwiliad i’r honiad iddo fethu â chofrestru'r rhodd ar ôl iddo ennill yr is-etholiad yn Clacton.
Dywedodd Mr Farage wrth The Sunday Times ei fod wedi cael ei holi gan Daniel Greenberg, y Comisiynydd Seneddol dros Safonau.
Cafodd y cyfweliad 30 munud ei gynnal ym Mhalas Westminster yn ystod mis Awst, meddai Mr Farage.
Yn unol â rheolau Tŷ’r Cyffredin, mae’n ofynnol i Aelodau Seneddol newydd gofrestru unrhyw anrhegion gwerth mwy na £300 a dderbyniwyd ganddynt yn ystod y 12 mis blaenorol, ac eithrio mewn achosion lle na ellid “yn rhesymol ddisgwyl i eraill feddwl” eu bod yn ymwneud â’u gweithgareddau gwleidyddol.
Mae Mr Farage wedi dweud nad oedd y rhodd yn un gwleidyddol ac mae wedi mynnu nad yw wedi gwneud dim byd o'i le.
Mae Mr Harborne yn un o ddau biliwnydd crypto a roddodd £72 miliwn i Reform.
Fe wnaeth y ddwy rodd o £36 miliwn gan Ben Delo a Mr Harborne arwain at alwadau am uchafswm cyffredinol ar roddion, gan fynd ymhellach na deddfwriaeth sy'n ceisio cyfyngu ar roddion o ffynonellau tramor.
Dywedodd Mr Farage wrth The Sunday Times ei fod wedi disgwyl i'r ymateb i'r rhoddion fod yn "waeth o lawer", ond bod y sefyllfa wedi arwain at "rywfaint o barch anfoddog... y ffaith fy mod wedi llwyddo i gyflawni camp o'r maint yma - rwy'n credu ei fod wedi gwneud argraff ar bobl".
Roedd Mr Harborne yn byw yng Ngwlad Thai, ond ym mis Mehefin roedd adroddiadau ei fod wedi cofrestru i bleidleisio yn Sir Hampshire.