Nifer o bobl wedi marw mewn gwrthdrawiad ar draffordd yn Iwerddon

Gwrthdrawiad Iwerddon

Mae nifer o bobl wedi marw ac eraill wedi'u hanafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiad yn ymwneud â char oedd yn gyrru i'r cyfeiriad anghywir ar draffordd yn Sir Kildare, yn ôl yr heddlu yn Iwerddon.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gardaí fod dau gerbyd wedi gwrthdaro wyneb yn wyneb ar ffordd yr M9 i gyfeiriad y gogledd.

Dywedodd y Gardaí eu bod yn ymchwilio i amgylchiadau'r gwrthdrawiad am tua 03:00 ddydd Sul.

Mae un o'r rhai a anafwyd yn ddifrifol yn y gwrthdrawiad yn blentyn.

Cafodd gwasanaethau brys eu hysbysu am gerbyd oedd yn teithio tua'r de ar y ffordd i gyfeiriad y gogledd ar yr M9.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gardaí: "Mae nifer o bobl wedi marw ac nid oes manylion pellach ar gael ar hyn o bryd."

Ychwanegodd y llefarydd fod y gyrrwr a'r teithiwr yn y sedd flaen - dwy ddynes yn eu 30au - o'r ail gar wedi cael eu cludo i Ysbyty Prifysgol Tallaght ac maen nhw mewn cyflwr difrifol.

Cafodd dynes oedd yn teithio yn y sedd gefn, sy'n ei 20au, ei chludo i’r ysbyty ac mae hi mewn cyflwr difrifol.

Mae plentyn oedd hefyd yn teithio yn y car wedi cael ei gludo i ysbyty i blant lle mae mewn cyflwr difrifol.

Mae'r M9 rhwng cyffordd 3 a chyffordd 4, i'r gogledd ac i'r de, yn parhau ar gau.

Archwiliad

Bydd archwiliad fforensig o'r gwrthdrawiad gan y Gardaí yn cael ei gynnal.

Mae'r Gardaí yn apelio ar unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad i gysylltu.

Mae Fiosrú, Swyddfa Ombwdsmon yr Heddlu, wedi cael gwybod am y digwyddiad.

Dywedodd datganiad gan Fiosrú: “Yn unol â’i gylch gwaith statudol, mae ymchwiliad Fiosrú yn ymwneud â digwyddiadau sy’n cynnwys cyswllt â’r Gardaí lle mae aelod o’r cyhoedd wedi marw neu wedi’i anafu’n ddifrifol.

“Nid yw atgyfeiriad o reidrwydd yn golygu bod swyddog neu swyddogion Garda wedi cael eu cyhuddo o gamymddygiad.

“Yn hytrach, mae’n golygu y dylai Fiosrú ymchwilio i’r digwyddiad yn annibynnol i ganfod a allai gweithred neu fethiant i weithredu gan swyddog neu swyddogion Garda fod wedi arwain at farwolaeth person neu niwed difrifol iddo.

“Gan fod y mater yn cael ei ymchwilio ar hyn o bryd, ni all Fiosrú wneud unrhyw sylw pellach.”

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.