Newidiadau i'r wladwriaeth les yn dod i rym ar draws y DU
Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno nifer o newidiadau i'r wladwriaeth les ar draws y DU.
O ddydd Llun ymlaen, bydd hawlwyr newydd ar gyfer credyd cynhwysol iechyd yn derbyn cyfradd is o £217.26 y mis.
Mae credyd cyffredinol yn daliad sy'n helpu gyda chostau byw ac ar gael i bobl mewn gwaith sydd ar incwm isel, a’r rhai sydd allan o waith neu na allant weithio.
Bydd pobl sydd â chyflyrau difrifol gydol oes, pobl sy’n agosáu at ddiwedd eu hoes, a phob hawlydd credyd cynhwysol iechyd presennol yn parhau i dderbyn y gyfradd uwch o £429.80 y mis.
Mae disgwyl i'r newid arbed tua £1 biliwn i drethdalwyr, yn ôl y llywodraeth.
Mae ystadegau a gyhoeddwyd y mis diwethaf yn dangos fod 2.7 miliwn o bobl ar gredyd cynhwysol ar draws Cymru, Lloegr a'r Alban wedi'u hasesu fel rhai â gallu cyfyngedig i weithio.
Mae'r llywodraeth wedi addo y gall eu buddsoddiad mewn cymorth cyflogaeth "wedi'i deilwra" gynnig cyfleoedd i bobl, gan eu cefnogi i symud i fyd gwaith ac aros mewn gwaith "yn hytrach na gadael pobl yn sownd ar fudd-daliadau".
Dywedodd y gweinidog dros nawdd cymdeithasol ac anabledd, Syr Stephen Timms: "Mae’r system les a etifeddwyd gennym wedi cloi pobl anabl a phobl â chyflyrau hirdymor allan o waith ers gormod o amser.
"Mae rhoi hwb i’r lwfans safonol a buddsoddi £3.5 biliwn mewn cymorth cyflogaeth ar yr un pryd yn golygu ein bod yn creu system les sy’n cefnogi pobl i weithio ac yn eu helpu i adeiladu dyfodol gwell."
Gwelliannau i dâl salwch ac absenoldeb rhiant
Fel rhan o'r newidiadau i'r wladwriaeth les, bydd 1.2 miliwn o weithwyr yn cael mynediad at dâl salwch statudol am y tro cyntaf, gyda 8.4 miliwn o bobl yn elwa o dâl salwch sy'n cael ei dalu o ddiwrnod cyntaf y salwch.
Yn flaenorol, nid oedd gweithwyr a oedd yn ennill llai na throthwy o £125 yr wythnos yn gymwys i gael tâl salwch statudol.
Yn ogystal â thâl salwch cryfach, bydd gan dadau a phartneriaid nawr hawl i absenoldeb tadolaeth ar y diwrnod cyntaf ar ôl genedigaeth plentyn, a bydd pob rhiant yn ennill yr hawl i absenoldeb rhiant di-dâl ar y diwrnod cyntaf.
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol yr undeb TUC, Paul Nowak: "Ar ôl blynyddoedd o ymgyrchu gan undebau a gweithwyr, mae’r hawliau unigol cyntaf o’r Ddeddf Hawliau Cyflogaeth yn dod i rym - a byddant yn newid bywydau ledled y wlad.
"Mae tâl salwch i bawb, sy'n cael ei dalu o ddiwrnod cyntaf y salwch, yn gam enfawr ymlaen.
"Am gyfnod rhy hir, mae gweithwyr â chyflog isel - yn enwedig menywod - wedi colli allan ar unrhyw fath o dâl salwch.
"Hyd yn oed y rhai oedd yn gymwys i gael tâl salwch statudol, bu’n rhaid iddynt aros pedwar diwrnod cyn y gallent ei hawlio.
"Roedd hynny'n gadael nifer heb ddewis ond mynd i’r gwaith pan oeddent yn sâl - gan beryglu lledaenu a pharhau â’u salwch."
Diddymu'r budd-dal dau blentyn
Bydd y cap budd-dal dau blentyn hefyd yn dod i ben yn swyddogol ddydd Llun.
Yn ôl amcangyfrifon, bydd 450,000 o blant yn cael eu codi allan o dlodi o ganlyniad i'r newid.
Cafodd y cap ei gyflwyno gyntaf gan y Ceidwadwyr yn 2017.
Roedd y polisi yn golygu nad yw'r rhan fwyaf o deuluoedd yn cael hawlio budd-daliadau ar gyfer trydydd plentyn neu unrhyw blant pellach.
Dywedodd Prif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer, mai dyma un o nifer o gamau y mae'r llywodraeth wedi'u cymryd yn sgil pwysau costau byw cynyddol sydd wedi cael eu hachosi gan y rhyfel yn Iran dros yr wythnosau diwethaf.
"Waeth beth fo'r ansicrwydd byd-eang, bydd fy llywodraeth bob amser ar ochr pobl Prydain wrth leihau costau byw," meddai.
"Ni fyddaf byth yn colli golwg ar ba mor aflonydd yw pobl dros newid, ac rwy'n falch ein bod heddiw yn codi bron i hanner miliwn o blant allan o dlodi, yn hybu cefnogaeth i bensiynwyr, ac yn cyflawni'r uwchraddiad mwyaf i hawliau gweithwyr mewn cenhedlaeth."