Newid prif amseroedd gemau Uwch-gynghrair Cymru i nos Wener

Cymru Prem

Mae nifer o newidiadau mawr ar droed i Uwch-gynghrair Cymru dros y tymor pêl-droed nesaf.

Un o’r prif newidiadau fydd cefnogwyr yn ei weld, fydd y rhan fwyaf o'r gemau yn cael eu chwarae ar nosweithiau Gwener a hynny ar gyfer y tymor i gyd. 

Mae’r newid yn golygu bydd y rhan fwyaf o gemau yn cael eu chwarae dan lif oleuadau.

‘VAR’

Am y tro cyntaf erioed hefyd, fe fydd technoleg fideo VAR Light yn cael ei defnyddio i gynorthwyo'r swyddogion mewn gemau.

Mae un o brif ddyfarnwyr Uwch Gynghrair Cymru, Iwan Griffith wedi trafod mewn erthygl yn ddiweddar fod cyflwyno elfen o VAR i’r gynghrair yn ddatblygiad arwyddocâol iawn.

“Mae hyn yn newid enfawr i'r gêm yng Nghymru ac yn moderneiddio'r gêm i gyd-fynd â phrif gynghreiriau eraill yn Ewrop a'r byd sydd eisoes yn defnyddio VAR” meddai.

Mae cefnogwyr eisoes wedi cael gwybod fod y gynghrair wedi bathu enw swyddogol newydd ar gyfer y tymor nesaf.

Yr enw swyddogol fydd Novira Cymru Premier. Mae hynny’n dod oherwydd ymrwymiad masnachol y gynghrair gyda noddwyr newydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.