Netanyahu yn 'gohirio' ymosodiadau ar feysydd nwy Iran ar ôl galwad gan Trump

Benjamin Netanyahu

Mae Prif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu, wedi dweud y bydd Israel yn "gohirio" ymosodiadau ar feysydd nwy Iran ar ôl i Arlywydd America, Donald Trump, ofyn yn garedig iddo ddod a'r bomio hynny i ben.

Dros nos, mae dinasyddion yn y ddwy wlad wedi adrodd fod ffrwydradau wedi eu clywed a'u teimlo yn Jerwsalem ac ym mhrifddinas Iran, Tehran, a hynny wrth i'r Iraniaid nodi Nowruz - Blwyddyn Newydd Persia.

Mewn mannau eraill yn y dwyrain canol, mae'r Emiradau Arabaidd Unedig, Kuwait, Saudi Arabia a Bahrain i gyd wedi adrodd am ymosodiadau taflegrau neu ddronau dros nos.

Mae un ymosodiad drôn ar burfa olew yn Kuwait wedi achosi tân, yn ôl darlledwyr cyhoeddus y wlad, tra bod gweinidog ynni Qatar yn dweud y bydd capasiti allforio nwy naturiol hylifedig y wlad yn gorfod cael ei leihau o 17% dros y pum mlynedd nesaf o ganlyniad i ymosodiad Iran ar gyfleuster Ras Laffan yn gynharach yn yr wythnos.

Er gwaethaf y ffaith fod ymosodiadau ar safleoedd ac isadeiledd ynni craidd rhanbarth wedi dwysau dros yr wythnos diwethaf, mae'r marchnadoedd ar draws y byd yn ymddangos fel eu bod yn sefydlogi, ond fod pris olew a nwy yn parhau i fod yn uchel iawn.

Mae sylwebwyr gwleidyddol yn rhagweld y bydd yr Arlywydd Trump yn ceisio hawlio'r clod am sicrhau hynny yn dilyn sgwrs rhyngddo ef â Phrif Weinidog Israel, sydd, yn ôl ffynonellau, wedi rhoi ei air i Trump na fyddai ymosodiadau pellach gan ei wlad ar feysydd nwy Iran - am y tro o leiaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.