Neil Kinnock: Polisïau fel torri tâl tanwydd wedi troi siom at Lafur yn ‘atgasedd’
Mae cyn-arweinydd y Blaid Lafur, Neil Kinnock, wedi dweud fod polisïau llywodraeth Keir Starmer ar y system les wedi troi siom gyda’r blaid yng Nghymru yn “atgasedd”.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Kinnock fod penderfyniadau Llywodraeth y DU ar fudd-daliadau a thaliadau tanwydd y gaeaf wedi gyrru pleidleiswyr yng Nghymru oddi wrth y blaid cyn etholiad y Senedd.
Fe wnaeth Neil Kinnock y sylwadau fel rhan o bennod YouTube arbennig ar 100 diwrnod cyntaf Andy Burnham yn Brif Weinidog, a olynodd Keir Starmer yn ystod yr haf.
Dywedodd fod llywodraethu “ar ddau ben yr M4” cyn etholiad y Senedd ym mis Mai wedi cyflwyno her ychwanegol i’w blaid.
“Pan mae yna lywodraeth yn Llundain a Chaerdydd o’r un blaid, mae’n golygu os oes yna wrthwynebiad neu ddicter ar y naill ben o’r M4 bydd y criw arall yn talu’r pris hefyd,” meddai.
“A does dim amheuaeth o gwbl yn fy meddwl i fod yr ymddieithrio hwnnw wedi bod yn cynyddu’n raddol.
“Gallai fod yn gymysgedd o ddiflastod, o atgasedd, o ddiffyg hyder, o siom mewn llywodraeth Lafur oedd wedi bod mewn grym am 27 mlynedd. Gallai fod yn gyfuniad o’r holl bethau hynny.
“Ond mewn gwirionedd, beth wnaeth droi hynny’n atgasedd pendant, ac roedd hwnnw’n bodoli ym mis Mai eleni, oedd camau fel tynnu taliad tanwydd y gaeaf yn ôl, y bygythiadau i’r system les, a’r cap dau blentyn ar fudd-daliadau.”
Datganoli cyfiawnder
Dywedodd Neil Kinnock, sy’n dad i Ysgrifennydd Cymru, Stephen Kinnock, fod ganddo hefyd amheuon am ddatganoli cyfiawnder i Gymru.
Yr hyn oedd ei angen oedd mwy o staff, cyllid a buddsoddiad, meddai.
“Pe bai [datganoli] yn golygu bod Cymru’n cael ei hamddiffyn yn well, bod y strydoedd yn fwy diogel, bod y system gyfiawnder yn fwy effeithlon a bod achosion yn mynd drwy’r llysoedd yn deg ond yn gyflym, a’r holl bethau eraill, pe bai’n golygu mwy o fuddsoddiad, yna efallai na fyddai llawer o ddadl yn ei erbyn,” meddai.
“Ond does dim sicrwydd o’r pethau hynny ar hyn o bryd. A hyd nes y bydd y sicrwydd hwnnw yn ei le, byddai’r holl newid a tharfu wrth greu system newydd i bob pwrpas, gyda rheolwyr newydd, efallai hyd yn oed haenau newydd o reolaeth, gyda phenodiadau newydd ac agwedd sy’n edrych tuag i mewn ar y system gyfiawnder, yn golygu mwy o anfanteision na manteision. A dwi o blaid manteision.
“Nawr, fe allai’r darlun hwnnw newid, ond fel dwi’n ei weld nawr ym mis Hydref 2026, dyna lle rydyn ni: mae mwy o anfanteision na manteision.”
‘Ddim yn iach’
Wrth ymateb i'r profiad o fod yn wrthblaid am y tro cyntaf yn hanes y Senedd, dywedodd un o aelodau newydd Llafur yn y Senedd, Huw Thomas, fod modd ei weld fel cyfnod “cyffrous”.
“Mae’n gyfnod o ailadeiladu ac mae’n gallu bod yn gyffrous ailadeiladu,” meddai.
“Dyw hi ddim yn iach i unrhyw wlad gael un llywodraeth am byth. At some point, roedd Llafur Cymru yn mynd i golli.
“Beth sy’n hollbwysig nawr yw ein bod ni’n dysgu’r gwersi cywir o’r golled honno.”
Roedd Huw Thomas yn pwysleisio bod pleidleiswyr wedi barnu record Llafur yn San Steffan ac yng Nghymru.
“Ym mis Mai roedd pobl yn edrych ar record Keir Starmer yn San Steffan, ac hefyd yn edrych ar record Llafur yng Nghymru dros chwarter canrif a’u penderfyniadau,” meddai.
Llai hyderus am gyfeiriad y blaid oedd Alun Davies, cyn AS Blaenau Gwent a gollodd ei sedd ym mis Mai.
“Be dwi’n gweld ydi bod y Blaid Lafur yn Lloegr yn symud ymlaen,” meddai.
“Teimlo’n hyderus. Edrych ymlaen at y dyfodol. Maen nhw’n gweld bod pethau wedi newid – 'dan ni wedi troi tudalen ers dyddiau Keir Starmer.
“Dyw e ddim yn teimlo fel ‘na yng Nghymru. 'Dan ni’n edrych ar sut 'dan ni wedi colli grym fan hyn, a ‘dan ni’n ofni i ryw raddau etholiadau y flwyddyn nesa’.
“Mae’r Blaid Lafur wedi bod yn llwyddiannus yng Nghymru tra’n methu yn Lloegr.
“Nawr am y tro cyntaf ers canrif mae’n edrych fel bod pethau wedi newid. 'Dan ni’n gallu bod yn llwyddiannus yn Lloegr ond yn colli tir yng Nghymru.”
