Mwy na 7,000 o droseddwyr i wisgo 'tagiau sobrwydd' yn ystod Cwpan y Byd
Bydd 7,300 o droseddwyr yng Nghymru a Lloegr yn cael eu gwahardd rhag yfed alcohol yn ystod twrnamaint Cwpan y Byd gan ddefnyddio tagiau ffêr electronig, meddai'r Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Dywedodd yr adran bod tua 5,000 o droseddwyr a oedd naill ai wedi'u rhyddhau o'r carchar, neu'n gwasanaethu dedfryd gymunedol, eisoes yn gwisgo'r tagiau sy'n canfod alcohol pan ddechreuodd y twrnamaint pêl-droed ar 11 Mehefin.
Mae disgwyl i 2,300 arall dderbyn y tagiau yn ystod y gystadleuaeth.
Mae'r tagiau'n dadansoddi chwys y sawl sy'n eu gwisgo 24 awr y dydd ac yn anfon rhybudd at swyddogion prawf os byddant yn yfed alcohol.
Gall y dyfeisiau wahaniaethu rhwng troseddwr sy'n cefnogi ei dîm mewn tafarn a rhywun sy'n yfed alcohol.
Dywedodd Gweinidog Carchardai Llywodraeth y DU, yr Arglwydd James Timpson, fod y dechnoleg yn "alwad i droseddwyr ddeffro".
"Dylai digwyddiadau chwaraeon fod yn gyfle i'r wlad ddod ynghyd a mwynhau'r gêm, nid i drais ac anhrefn sy'n deillio o alcohol ddifetha'r achlysur," meddai.
"Mae gorfod gwisgo'r dechnoleg hon o amgylch y ffêr yn alwad i droseddwyr ddeffro ac yn eu hatgoffa y gallai un camgymeriad eu hanfon yn ôl i'r carchar."
Ers i'r dechnoleg gael ei chyflwyno yn 2020, mae troseddwyr sydd wedi'u gwahardd rhag yfed alcohol wedi aros yn sobr am 97% o'r dyddiau y maent wedi bod yn gwisgo'r tagiau, meddai'r Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Os bydd troseddwr sy'n gwisgo tag yn yfed alcohol, gall ei swyddog prawf orchymyn iddo ddychwelyd i'r llys neu i'r carchar.