Mwy o donnau gwres yn bosib yr haf hwn
Fe allai Prydain weld haf poethach na'r arfer yn ôl y rhagolygon tywydd.
Ar y 1af o Fehefin fe wnaeth y Swyddfa Dywydd gyhoeddi ei rhagolwg ar gyfer tri mis yr haf. Roedden nhw yn dweud bod yna bosibilrwydd uwch na'r arfer o dywydd poeth yn ystod mis Mehefin.
Yr un yw'r sefyllfa ar gyfer misoedd eraill yr haf.
Gan edrych ar fisoedd Gorffennaf ac Awst y gred yw bod yna "debygrwydd uwch o donnau gwres (heatwaves)".
Ym mis Mai cafodd y diwrnod poethaf erioed yng Nghymru ei gofnodi. Y tymheredd oedd 32.2C ym Mhenarlâg, Sir y Fflint ar Mai 25. Fe gafodd y record ei thorri mewn mannau eraill o'r DU hefyd ym mis Mai gyda thymheredd o 35.1C yng Ngherddi Kew yn Llundain.
Am y tro cyntaf eleni cafodd rhybuddio melyn a choch yn ymwneud â'r gwres eu datgan.
Mae'r Swyddfa Dywydd a MetoGroup wedi dweud posibilrwydd o "bigion tymheredd uwch" yn ystod y misoedd nesaf.
Maent hefyd yn dweud y gallen ni weld "hyrddiau sylweddol o wres" ym Mhrydain ac ar draws Ewrop.
Mae mwy o ansicrwydd ynglŷn â faint o law y cawn ni yn ystod yr haf gyda'r rhai sydd yn edrych ar y tywydd yn anghytuno.
Darogan y MetoGroup yw cyfnod mwy sych tra bod y Swyddfa Dywydd yn darogan cyfnod arferol neu yn fwy gwlyb na'r arfer.
Pwrpas rhagolygon tywydd tymhorol yw rhoi syniad i asiantaethau llywodraeth, darparwyr iechyd a chyflenwyr ynni o'r hyn allai ddigwydd yn y tri mis nesaf fel eu bod nhw yn gallu cynllunio.
Maen nhw'n defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf i astudio patrymau'r tywydd. Ond tymereddau ar gyfartaledd yw'r darogan hyn. Felly er bod hi'n bosib y cawn ni dywydd poethach fe allai yna rhai wythnosau fod yn fwy oer hefyd.
