Ysgrifennydd Cartref yn beirniadu protestiadau wedi llofruddiaeth Henry Nowak
Mae Ysgrifennydd Cartref Llywodraeth San Steffan wedi beirniadu protestiadau ynglŷn â'r ffordd y deliodd yr heddlu â llofruddiaeth myfyriwr 18 oed.
Fe gafodd Henry Nowak ei rhoi mewn cyffion ar ôl cael ei drywanu ym mis Rhagfyr y llynedd.
Roedd y dyn oedd wedi ei drywanu, Vickrum Digwa, wedi dweud wrth yr heddlu bod Henry Nowak wedi ymosod yn hiliol arno. Celwydd oedd hyn.
Cafodd Digwa garchar am oes am lofruddio Mr Nowak ddydd Llun.
Nos Fawrth fe ddechreuodd protestiadau yn Southampton ar ôl i ddeunydd fideo o'r camerâu roedd yr heddlu yn gwisgo gael ei rhyddhau.
Yn y fideo yma mae Henry Nowak yn dweud wrth yr heddlu ei fod wedi ei drywanu ac mae modd clywed un swyddog yn ymateb trwy ddweud, 'Dwi ddim yn meddwl bo ti, mêt'.
Yn ôl yr Ysgrifennydd Cartref, Shabana Mahmood roedd y "trais ac anrhefn" a welwyd nos Fawrth yn "hollol annerbyniol".
Roedd cannoedd o bobl wedi cyfarfod tu allan i orsaf heddlu Southampton cyn iddyn nhw wedyn symud yn agos at gartref Vickrum Digwa.
Mewn neges ar X dywedodd Mahmood, "Fe wnaeth teulu Nowak alwad bwerus i ni i gyd ddoe i beidio â gadael i farwolaeth Henry gael ei defnyddio i greu rhaniadau, casineb na thensiwn pellach.
"Does dim unrhyw gyfiawnhad dros herwgipio'r drasiedi hon i ysgogi trais ac anhrefn. Fe all y rhai sy'n gyfrifol ddisgwyl wynebu grym llawn y gyfraith."
Mae'r Prif Weinidog, Keir Starmer wedi dweud ei fod wedi teimlo'n "sâl" wrth wylio'r deunydd fideo o Henry Nowak yn cael ei arestio cyn ei farwolaeth.
"Mae yna gwestiynau difrifol mae'n rhaid i'r heddlu eu hateb" meddai.
Mae penaethiaid yr heddlu wedi dweud y byddan nhw'n adolygu'r canllawiau gwrth-hiliaeth ac yn cyflwyno newidiadau lle mae angen. Yr awgrym yn y canllawiau yw y dylai swyddogion heddlu drin lleiafrifoedd ethnig yn wahanol er mwyn sicrhau cydraddoldeb.
Llun: Heddlu Hampshire/PA
