Morocco yn cipio teitl Cwpan Cenhedloedd Affrica ar ôl tro pedol dadleuol
Mae Morocco wedi cipio teitl Cwpan Cenhedloedd Affrica (AFCON) 2025 ar ôl i Gydffederasiwn Pêl Droed Affrica (CAF) newid penderfyniad y rownd derfynol.
Roedd Senegal wedi curo Morocco o 1-0 yn y ffeinal ar 18 Ionawr. Ond roedd chwaraewyr Senegal wedi gwrthod chwarae ar ôl i Morocco gael cic gosb. Fe aethon nhw oddi ar y cae a dychwelyd eto wedi dros 15 munud.
Cafodd cic gosb Brahim Diaz ei harbed ac fe sgoriodd Pape Gueye i Senegal yn ystod yr amser ychwanegol.
Ond mae'r penderfyniad i roi'r teitl i Senegal wedi ei newid ar ôl apêl i gorff llywodraethol pêl-droed Affrica.
Dywedodd Ffederasiwn Pêl-droed Senegal y byddai'n apelio yn erbyn penderfyniad CAF, gan ei alw yn "annheg, digynsail ac annerbyniol sy'n dwyn anfri ar bêl-droed Affrica."
Dywedodd CAF "drwy ymddygiad eu tîm" fod Senegal wedi torri Erthygl 82 o reolau Cwpan Cenhedloedd Affrica ac o ganlyniad, roedd Erthygl 84 yn berthnasol.
Mae Erthygl 82 yn datgan os yw tîm yn gwrthod chwarae neu yn gadael y cae cyn diwedd y gêm heb awdurdod y dyfarnwr, mae'n cael ei ystyried mai nhw sydd wedi colli ac maent yn gorfod gadael y gystadleuaeth.
Mae Erthygl 84 yn datgan y bydd unrhyw dîm sy'n mynd yn erbyn Erthygl 82 yn cael eu dileu'n barhaol o'r gystadleuaeth ac yn colli'r gêm 3-0.
Mewn datganiad, dywedodd Ffederasiwn Pêl-droed Morocco nad bwriad eu penderfyniad i apelio yn erbyn y sgôr terfynol "oedd i herio perfformiad y timau" ond yn hytrach ei fod yn gais i "gymhwyso rheoliadau'r gystadleuaeth".