Môn: Rhybudd i ymwelwyr i 'barcio'n gyfrifol' ger Traeth Llanddwyn
Mae Cyngor Môn wedi rhybuddio ymwelwyr sy'n ymweld â Thraeth Llanddwyn dros benwythnos Gŵyl y Banc i barcio'n gyfrifol.
Daw hyn wedi i drigolion dynnu sylw at bryderon diogelwch ffyrdd o ganlyniad i barcio anghyfrifol ar hyd yr A4080 rhwng Niwbwrch a Malltraeth.
Dywed y cyngor y bydd swyddogion Gorfodi Parcio yn yr ardal dros y penwythnos.
Fe fydd unrhyw gerbydau sydd wedi eu parcio ar ymyl y glaswellt ar ochr yr A4080 yn derbyn dirwy, ychwanegodd y cyngor.
Daw'r rhybudd wedi i system barcio newydd gael ei chyflwyno yn Nghoedwig Niwbwrch ym mis Mawrth eleni, fel rhan o gynllun newydd Cyfoeth Naturiol Cymru.
Roedd y safle yn un o dri yng Nghymru lle mae system adnabod platiau rhif awtomatig (ANPR) bellach wedi ei gosod er mwyn ceisio mynd i afael â phroblemau parcio difrifol.