Môn: Person ar fwrdd ffoil wedi mynd i drafferthion ym Mae Caernarfon
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i achub person ar fwrdd ffoil oedd wedi cael ei gario allan i’r môr ym Mae Caernarfon.
Cafodd Tîm Achub Gwylwyr y Glannau Rhosneigr ei alw gan Ganolfan Cydlynu Achub Morwrol Caergybi i Draeth Llanddwyn, Niwbwrch, Ynys Môn ddydd Llun 14 Medi.
Roedd y tîm wedi cael cais i gadw golwg am berson ar fwrdd ffoil oedd wedi cael ei gario allan i’r môr yn ardal Bae Caernarfon.
Cafodd hofrennydd achub Gwylwyr y Glannau o Gaernarfon a bad achub RNLI Porthdinllaen eu galw i’r digwyddiad hefyd.
Roedd timau Gwylwyr y Glannau Bangor a Llandwrog hefyd yn rhan o’r ymgyrch, gan gadw golwg o fannau ar hyd Afon Menai ac i gyfeiriad Trefor.
Dywedodd Tîm Achub Gwylwyr y Glannau Rhosneigr: “Yn fuan wedyn, cawsom ddiweddariad bod y person ar y bwrdd ffoil wedi llwyddo i achub ei hun ac wedi cyrraedd y lan yn ddiogel.”
Ychwanegodd y tîm eu bod wedyn wedi gallu dod â’u rhan nhw o’r ymgyrch i ben a dychwelyd i’r orsaf.
Mae Gwylwyr y Glannau yn atgoffa pobl i ffonio 999 a gofyn am Wylwyr y Glannau mewn argyfwng ar yr arfordir.