Môn: Achub ci ar ôl disgyn 40 troedfedd oddi ar glogwyn
Cafodd criwiau achub eu galw i achub ci a ddisgynnodd 40 troedfedd oddi ar glogwyn ar arfordir Ynys Môn ddydd Gwener.
Cafodd criw bad achub Caergybi eu galw i Fae Cemaes toc wedi 19:00.
Roedd perchennog y ci wedi dringo i lawr wyneb y graig i geisio ei achub, ar ôl iddo ddisgyn, cyn galw Gwylwyr y Glannau am gymorth.
Cafodd dau fad achub eu galw i’r lleoliad, yn ogystal â thîm achub clogwyn arbenigol i gynorthwyo’r ymgyrch i achub y ci a’i berchennog.
Daeth y criw o hyd iddyn nhw ar greigiau Porth y Pistyll, tua’r gorllewin i Ben y Wylfa, ond nid oedd modd i’r perchennog symud y ci i safle diogel am ei fod wedi dioddef anafiadau ar ôl disgyn.
Ar ôl eu cyrraedd, fe wnaeth criw’r bad achub Dosbarth D eu cludo i’r cwch.
Cafodd y ci a’r perchennog eu cludo i Fae Cemaes, cyn i filfeddyg gynnal archwiliad o’r ci. Er pryderon ei fod wedi torri coes, dywedodd y perchennog mai mân anafiadau yn unig a ddioddefodd, sef ysigiad (strain) ar ei goes a chlwyf ar ei wyneb.
Dywedodd Rheolwr Gweithrediadau Bad Achub Caergybi RNLI, David Owens: “Roedd ein criw yn falch iawn o gyrraedd y lleoliad a dod o hyd i’r ci a’i berchennog, a’u cael i ddiogelwch yn gyflym.
“Galw am gymorth yw’r peth gorau i’w wneud bob amser yn y sefyllfaoedd hyn. Bydd ffonio 999 a gofyn am Wylwyr y Glannau yn golygu y gallwn ni a’r timau achub clogwyn gyrraedd yno’n gyflym a helpu.
“Mae anifail anwes sydd wedi’i achub yn golygu perchennog diogel, hapus a rhyddhad mawr hefyd. Gobeithiwn y bydd Derek y ci yn gwella’n dda o’i brofiad.”
Prif lun: Y criw bad achub yn dychwelyd i'r lan (Llun: RNLI) / Derek y ci (Llun: Alison Ditchfield)