Michael Sheen ymhlith y sêr yng nghyfres newydd Celebrity Traitors
Mae’r actor a’r ymgyrchydd Michael Sheen ymhlith yr enwogion fydd yn camu drwy ddrysau’r castell ar gyfer ail gyfres Celebrity Traitors.
Bydd yr actor o Bort Talbot yn ymuno ag 20 o sêr eraill wrth iddyn nhw fynd i ucheldiroedd yr Alban i geisio canfod pwy sy’n Ffyddlon a phwy sy’n Fradwr.
Gyda Claudia Winkleman unwaith eto wrth y llyw, bydd yr enwogion yn ceisio goroesi llofruddiaethau, alltudiaethau a’r ford gron er mwyn ennill hyd at £100,000 i elusen o’u dewis.
Mae'r sioe boblogaidd, a ddenodd bron i 15 miliwn o wylwyr y bennod ar gyfartaledd yn y gyfres gyntaf gyda selebs, yn cychwyn nos Iau.
Cymru yn y castell
Nid Sheen fydd y Cymro cyntaf i geisio trechu’r Bradwyr, gyda Chymru eisoes wedi gadael ei hôl ar y rhaglen.
Fe wnaeth Leanne Quigley o Dreffynnon ennill trydedd gyfres The Traitors ochr yn ochr â Jake Brown, tra bod y Gymraeg hefyd wedi cael ei chlywed o fewn y muriau hynafol.
Ar ôl cael ei halltudio o’r un gyfres, fe wnaeth Elen Wyn Jones o Ynys Môn gyhoeddi wrth adael: “Dw i yn ffyddlon.”
Ac roedd cysylltiad arall â Chymru yn y gyfres honno, er nad oedd yr un hwnnw mor ddilys.
Fe wnaeth Charlotte Berman esgus bod yn Gymraes yn ystod ei chyfnod yn y gêm, gan ddefnyddio acen Gymreig ffug.
Mae Sheen wedi cyfeirio at hynny cyn ei ymddangosiad yn y gyfres.
“Dwi’n berson Cymreig go iawn, yn hytrach na rhywun sy’n esgus bod yn Gymro,” meddai.
Mantais neu anfantais?
Mae Sheen wedi gwneud gyrfa o argyhoeddi cynulleidfaoedd mai rhywun arall ydy e, gan bortreadu pobl fel Tony Blair, David Frost a Brian Clough.
Ond mewn gêm lle mae celwydd da yn gallu bod yn fantais, mae’r actor wedi cydnabod y gallai ei brofiad o actio weithio yn ei erbyn.
“Dwi’n meddwl bod pobl eraill yn y gêm a’r gynulleidfa yn medru synhwyro pan dyw rhywun ddim yn bod yn naturiol,” meddai.
“Mae’n rhaid bod yn ofalus iawn gyda hynny. Wrth gwrs, mae ’na rywfaint o actio rôl. Mae’n rôl, p’un ai wyt ti’n Fradwr neu’n Ffyddlon.
“A dyna’r broblem, dwi’n meddwl, gyda bod yn Ffyddlon hefyd. Mae pawb eisiau dangos eu bod nhw’n Ffyddlon, felly maen nhw’n actio cymaint â’r Bradwyr.
“Felly mae’n rhaid bod yn ofalus iawn gyda’r cyfan. Dwi’n meddwl, eto, os oes ’na unrhyw strategaeth, mai ceisio bod mor ddilys â phosib ydy hi.”
Ac os yw Sheen yn poeni am beidio â dod drosodd yn gredadwy, efallai bod ’yna reswm i’r actor o EastEnders, Ross Kemp, boeni hefyd.
Bydd yr actor a’r darlledwr yn teithio i’r Alban ar gyfer y gyfres newydd.
Mae chwe digrifwr hefyd ymhlith y cast, gan gynnwys Romesh Ranganathan, Rob Beckett, James Acaster, Joe Lycett, Joanne McNally a Miranda Hart.
Maen nhw’n dilyn ôl troed y digrifwr Alan Carr, a lwyddodd i ennill cyfres gyntaf The Celebrity Traitors fel Bradwr y llynedd.
Ai hiwmor, felly, yw’r gyfrinach i daflu llwch i lygaid y Ffyddloniaid?
Neu efallai mai’r mathemategydd Hannah Fry fydd â’r fantais wrth geisio datrys pwy sy’n dweud y gwir.
Bydd hi hefyd ymhlith cast sy’n cynnwys y canwr James Blunt, cyn-aelod Little Mix Leigh-Anne Pinnock, yr actor Bella Ramsey a’r cyflwynydd Maya Jama.
Bydd y cystadleuwyr yn chwarae er mwyn ennill hyd at £100,000 i elusen o’u dewis.
Ond cyn y gall unrhyw un gyrraedd y diwedd, bydd yn rhaid iddyn nhw argyhoeddi pawb arall y gellir ymddiried ynddyn nhw.
Bydd ail gyfres The Celebrity Traitors yn dechrau ar BBC One ac iPlayer am 20:00 ddydd Iau.