Menyw wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Sir Fynwy

Llun: Google
B4293 Sir Fynwy

Mae menyw wedi marw mewn gwrthdrawiad rhwng dau gar yn Sir Fynwy.

Cafodd Heddlu Gwent eu galw i ffordd yr B4293 rhwng pentrefi Llanddinol a'r Dyfawden tua 17:55 nos Iau.

Roedd swyddogion a pharafeddygon y gwasanaeth ambiwlans yn bresennol, meddai'r llu.

Dywedodd y llu bod y gwrthdrawiad rhwng ceir Nissan Micra a Range Rover.

Bu farw gyrrwr y Nissan Micra, menyw 54 oed o Gwmbrân, yn y fan a'r lle. Mae ei theulu wedi cael gwybod.

Gallai unrhyw un sydd â gwybodaeth neu luniau dashcam gysylltu gyda'r heddlu trwy eu gwefan neu ffonio 101 a dyfynnu'r cyfeirnod 2600061951.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.