Marwolaethau’n codi 30% yn Ffrainc wrth i dywydd crasboeth daro’r cyfandir

Tywydd poeth ym Mharis

Fe gofnododd awdurdodau Ffrainc bron i 30% yn fwy o farwolaethau na’r arfer yn ystod y tywydd crasboeth diweddar a chwalodd recordiau tymheredd mewn sawl gwlad yn Ewrop.

Yn ôl yr asiantaeth iechyd cenedlaethol ym Mharis, bu farw dros 2,000 o bobl yn fwy rhwng 22-28 Mehefin na’r wythnos flaenorol, gyda chynnydd sylweddol ymhlith pobl dros 65 oed.

Roedd y don o dywydd poeth a drawodd gwledydd ar draws y cyfandir - o Sbaen, i Gymru, i Wlad Pwyl - yn ail hanner y mis ymhlith y mwyaf eithafol o fewn cof. Cododd y tymheredd mewn sawl gwlad yn uwch na 40°C, gan arwain at rybuddion o’r radd uchaf ynghylch effaith niwediol y gwres.

Data anghyflawn ydy’r ffigyrau gafodd eu cyhoeddi ddydd Gwener gan yr awdurdodau yn Ffrainc, sy’n pwysleisio y bydd gwybodaeth fanylach am farwolaethau yn cael eu cyhoeddi cyn hir.

Ond mae’n rhoi darlun o oblygiadau’r gwres mawr ar un wlad gafodd ei tharo’n arbennig o galed. Mehefin 24 yn oedd y dydd poethaf yn hanes y wlad o ran tymheredd cyfartalog tymheredd.

Fel Ffrainc, mae sawl gwlad arall wedi rhyddhau ffigyrau am nifer y marwolaethau gormodol (excess deaths) yn ystod y cyfnod yma. Yng Ngwlad Belg bu farw dros 1,200 yn fwy na’r disgwyl, sy’n gynnydd o 39%, tra fod yr Iseldiroedd wedi cofnodi 480 o farwolaethau ychwanegol yn sgil y gwres.

Yn ôl amcangyfrifon gan ymchwilwyr yn Sbaen, fe achosodd y tywydd poethaf dros 1,000 o farwolaethau yn ystod mis Mehefin, gyda 623 o’r rheiny yn ystod wythnos fwyaf crasboeth y mis. 

Er i’r tymheredd ostwng ar draws Ewrop dros y dyddiau diwethaf, mae disgwyl i don arall o wres llethol daro Sbaen a Ffrainc dros y penwythnos, gyda rhybuddion y gallai’r tymheredd gyrraedd 40°C unwaith eto.

Llun: Tywydd poeth ym Mharis, gan Reuters.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.