Marwolaethau Llangolman: Yr heddlu'n rhannu diweddariad am eu hadolygiad fforensig
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi dechrau trafodaethau gyda’r crwner fel rhan o adolygiad fforensig o farwolaethau brawd a chwaer a gafodd eu darganfod yn farw yn eu cartref yn Llangolman, Sir Benfro yn 1976.
Daeth ymchwiliad i'r casgliad ar y pryd fod Martha Thomas wedi cael ei lladd gan ei brawd, Griff, a'i fod wedi marw o ganlyniad i dân wnaeth ei gynnau yn y tŷ.
Hanner canrif yn ddiweddarach, mae'r heddlu yn dweud eu bod wedi cwblhau "gwaith sylweddol a chymhleth" fel rhan o’r adolygiad fforensig.
Roedd yr adolygiad yn cynnwys ailarchwilio tystiolaeth hanesyddol gan ddefnyddio dulliau a gwybodaeth fforensig cyfredol, gan gynnwys ffotograffau, olion bysedd o'r safle, ac unrhyw ddeunydd arall a allai ddarparu tystiolaeth DNA.
Yn ôl yr heddlu, cafodd "nifer o chwiliadau manwl" eu cynnal mewn nifer o safleoedd, er mwyn sicrhau bod yr holl ddeunydd wedi'i ganfod.
Roedd y safleoedd yn cynnwys archifau Heddlu Dyfed-Powys, yr uned cymorth gwyddonol ym Mhencadlys yr Heddlu yng Nghaerfyrddin, yr Archifdy Cenedlaethol yng Nghymru yn Aberystwyth, ac archif y Gwasanaeth Gwyddor Fforensig yn Birmingham.
O ganlyniad i'r chwiliadau, daeth y llu o hyd i ddeunydd yn cynnwys dyddiaduron Martha Thomas, dogfennau gwreiddiol yr ymchwiliad, olion bysedd a ffotograffau o farciau olion bysedd, yn ogystal â mowldiau post-mortem o ddwylo’r rhai a fu farw.
Mae’r heddlu bellach wedi dadansoddi ac uwchraddio olion bysedd, cynnal ymholiadau DNA, ac adolygu’r gwaith grwpio gwaed gan yr ymchwilwyr gwreiddiol.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys: "Mae’r teulu wedi cael gwybod am ganfyddiadau’r ymholiadau, yn ogystal â’r cyfyngiadau a wynebwyd wrth adolygu digwyddiad a ddigwyddodd 50 mlynedd yn ôl.
"Rydym bellach wedi cyrraedd cam lle mae cyfathrebu wedi dechrau gyda'r crwner er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am y sefyllfa bresennol, ac i geisio cyngor ac arweiniad ar sut y dylem symud ymlaen.
"Byddwn yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i deulu Griff a Martha am yr adolygiad, ynghyd ag unrhyw argymhellion gan y crwner."
Llun Teulu