Marwolaeth Hayden Panettiere ‘yn ddamweiniol’
Mae heddlu yn yr Unol Daleithiau wedi dod i’r casgliad bod marwolaeth yr actores Americanaidd Hayden Panettiere yn ddamweiniol, gan ddod a’u hymchwiliad i ben.
Bu farw seren Heroes a Nashville ym mis Awst yn 36 oed, o effeithiau gwenwynig fentanyl, Xanax a sawl cyffur arall yn ei chorff.
Daeth adroddiad archwiliwr meddygol fis diwethaf i’r casgliad fod Panettiere wedi marw o orddos o gyffuriau.
Roedd yr ymchwiliad hefyd wedi canfod methocarbamol, cyffur ar bresgripsiwn i ymlacio’r cyhyrau, a quetiapine, meddyginiaeth wrthseicotig sy’n cael ei defnyddio i drin rhai cyflyrau iechyd meddwl.
Mae’r opioid synthetig fentanyl wedi lladd cannoedd o filoedd o Americanwyr yn ystod y pum mlynedd diwethaf yn unig.
Dywedodd Adran Heddlu Greenville ei bod wedi “dod â’i hymchwiliad i ben” i’w marwolaeth.
“Ar sail dyfarniad yr archwiliwr meddygol a chanfyddiadau’r ymchwiliad, mae marwolaeth Hayden Panettiere wedi’i dyfarnu’n un ddamweiniol,” meddai’r heddlu mewn datganiad.
Cafodd Panettiere, a oedd wedi siarad yn agored am ei brwydr â chamddefnyddio sylweddau, ei chanfod yn anymatebol mewn cartref yn nhalaith De Carolina ar 16 Awst.
Nid oedd yr archwiliad post-mortem wedi dangos “unrhyw arwyddion o anafiadau” a oedd wedi cyfrannu at ei marwolaeth.
