Mark Williams ddim am sefyll eto wedi chwarter canrif yn ymgeisydd yng Ngheredigion
Mae cyn-AS Ceredigion, Mark Williams, wedi cyhoeddi na fydd yn ceisio cael ei ddewis yn ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn yr etholiad cyffredinol nesaf, ar ôl 27 mlynedd fel ymgeisydd neu AS.
Mae'r penderfyniad yn nodi diwedd cyfnod gwleidyddol yn y sir, lle mae ei enw wedi bod ar bapurau pleidleisio mewn wyth etholiad ers 2000.
Mewn neges ar ei gyfryngau cymdeithasol fore Llun, fe gadarnhaodd Mr Williams, 60 oed, ei fod wedi penderfynu rhoi cyfle i rywun arall.
"Ar ôl trafod gyda rhai o fy ffrindiau gwleidyddol agosaf, rydw i wedi penderfynu nad fi fydd yr ymgeisydd nesaf.
"Ar ôl 27 mlynedd fel ymgeisydd neu AS, mae'n bryd i rywun arall gael cyfle."
Inline Tweet: https://twitter.com/mark4ceredigion/status/2109515503240716512
Ond mewn cyfweliad â Newyddion S4C, mae Mr Williams wedi pwysleisio nad yw'n rhoi'r gorau i wleidyddiaeth.
"Yn bendant, nid dyma ddiwedd fy ngyrfa wleidyddol.
"Rydw i wedi bod yn Ddemocrat Rhyddfrydol ar hyd fy oes. Cefais fy ngeni'n Ddemocrat Rhyddfrydol, a byddaf yn marw'n Ddemocrat Rhyddfrydol.
"Mae llawer o waith i'w wneud o hyd o ran ymgyrchu."
Mae'n dweud ei fod wedi cyrraedd adeg yn ei fywyd pan mae'n bryd canolbwyntio ar bethau eraill, gan nodi iddo droi'n 60 oed yn gynharach eleni.
"Mae cenhedlaeth gyfan o bobl yng Ngheredigion wedi bod yn pleidleisio, ac mae fy enw i wedi bod ar y papur pleidleisio am wyth etholiad, dros 27 mlynedd," meddai.
"Mae hynny'n amser hir."
Mae'n gobeithio y bydd ei benderfyniad yn annog pobl eraill i gyflwyno eu henwau wrth i'r blaid ddewis ei hymgeisydd nesaf.
O San Steffan i Geredigion
Fe safodd Mr Williams dros y Democratiaid Rhyddfrydol yn Sir Fynwy yn etholiad cyffredinol 1997, cyn sefyll yng Ngheredigion am y tro cyntaf mewn isetholiad yn 2000.
Cafodd ei ethol yn AS Ceredigion yn 2005, gan gadw'r sedd yn etholiadau 2010 a 2015.
Yn dilyn etholiad 2015, ef oedd unig AS y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, a bu'n arwain y blaid yng Nghymru rhwng 2016 a 2017.
Collodd ei sedd i Ben Lake o Blaid Cymru yn 2017 o 104 o bleidleisiau yn unig, cyn ceisio ei hadennill yn 2019 a 2024.
"Roedd 2017 yn anodd oherwydd bod naws yr ymgyrch mor chwerw," meddai.
"Roedd effaith y gwrthwynebiad i'r glymblaid yn dal i'w deimlo. Roedd Brexit yn fater hefyd."
Fe ddywedodd ei fod yn edmygu ei olynydd Ben Lake yn fawr fel person, er eu gwahaniaethau gwleidyddol,
Effaith y glymblaid
Wrth edrych yn ôl ar ei gyfnod yn San Steffan, mae Mr Williams yn cydnabod bod y llywodraeth glymblaid rhwng y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Ceidwadwyr yn gyfnod anodd.
"Roedd agweddau ar y llywodraeth glymblaid yn gwneud i mi deimlo'n anghyfforddus iawn," meddai.
"Roeddwn i'n anhapus iawn gyda materion fel ffioedd dysgu a'r dreth ystafell wely, ac fe bleidleisiais yn erbyn y llywodraeth."
Ym mis Rhagfyr 2010, roedd yn un o 21 o ASau'r Democratiaid Rhyddfrydol a bleidleisiodd yn erbyn cynyddu uchafswm ffioedd dysgu prifysgolion yn Lloegr i £9,000 y flwyddyn.
Bu hefyd yn gwrthwynebu'r dreth ystafell wely, gan godi pryderon am ei heffaith ar bobl mewn ardaloedd gwledig fel Ceredigion.
Mae'n cydnabod bod y glymblaid wedi niweidio cefnogaeth i'r blaid yn y blynyddoedd ar ôl 2015.
"Roedd pobl oedd yn arfer ein cefnogi ni'n dweud nad oedd unrhyw wahaniaeth rhyngom ni a'r Ceidwadwyr, ein bod ni'n Geidwadwyr cudd," meddai.
"Yn sicr, doeddwn i ddim. Rydw i wedi treulio fy mywyd gwleidyddol yn brwydro yn erbyn y Ceidwadwyr."
Er hynny, mae'n credu bod cyflawniadau'r glymblaid, gan gynnwys priodas gyfartal, newidiadau i dreth incwm a'r warant pensiwn driphlyg, yn haeddu cydnabyddiaeth.
Brwydr dros Fronglais
Un o'r ymgyrchoedd lleol sy'n sefyll allan i Mr Williams yw'r frwydr dros wasanaethau Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth.
Bu'n ymgyrchu ochr yn ochr ag Elin Jones, oedd ar y pryd yn Aelod Cynulliad dros Geredigion, yn erbyn cynigion Llywodraeth Cynulliad Cymru i ad-drefnu gwasanaethau iechyd yng ngorllewin Cymru.
Roedd y cynllun dadleuol Designed to Deliver yn cynnwys opsiynau i ganoli gwasanaethau ysbytai'r rhanbarth, gan gynnwys gwasanaethau o Fronglais.
"Roedd dogfen arbennig o niweidiol o'r enw Designed to Deliver, a fyddai wedi ad-drefnu gwasanaethau mewn ffordd beryglus iawn," meddai.
"Drwy gydweithio ag Elin Jones, ein Haelod Cynulliad ar y pryd, fe wnaethon ni roi stop ar hynny.
"Roedd hynny'n bwysig iawn."
Mae Mr Williams hefyd yn cyfeirio at ei waith ar broblem esgeuluso plant, addysg fyd-eang, hawliau dynol yn Iran a'i gyfnod ar Bwyllgor Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin.
Ond mae'n dweud mai helpu pobl ei etholaeth oedd un o'r pethau mwyaf gwerthfawr am fod yn AS.
"Dydw i ddim yn gallu cerdded o gwmpas Ceredigion heb i rywun fy stopio a dweud, 'Mark, diolch am beth wnaethoch chi a'ch swyddfa drosta i'," meddai.
"Mae'r cannoedd, y miloedd o achosion hynny dros 12 mlynedd yn bwysig.
"Rydw i wastod wedi dweud mai gwaith AS yw rhoi llais i bobl."
'Stop Reform' neu 'Stop Plaid'
Wrth drafod yr heriau sy'n wynebu'r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, mae Mr Williams yn credu bod gormod o bleidiau'n cystadlu am gefnogaeth ar y canol-chwith.
"Mae gwleidyddiaeth ar y canol-chwith yn y Deyrnas Unedig yn orlawn," meddai, gan gyfeirio at y gystadleuaeth rhwng y Democratiaid Rhyddfrydol, Llafur a'r Blaid Werdd yn Lloegr.
Mae'n dweud bod Plaid Cymru hefyd yn gwneud y sefyllfa'n fwy cystadleuol yng Nghymru.
Wrth edrych yn ôl ar etholiad diwethaf y Senedd, mae'n credu bod yr ymgyrch wedi'i pholareiddio rhwng negeseuon 'Stop Reform' a 'Stop Plaid'.
"Mae'n rhaid i ni barhau i gyfleu ein neges," meddai.
"Rydw i'n credu mai gwleidyddiaeth gymunedol yw un o'n cryfderau. Rydyn ni'n dda am sicrhau bod pobl yn cael cynrychiolaeth leol dda.
"Dyna pam rydyn ni'n troi ein sylw at etholiadau'r cynghorau y flwyddyn nesaf."
Mae hefyd yn cydnabod bod angen i'r Democratiaid Rhyddfrydol ailganfod neges glir i bleidleiswyr.
"Rydw i'n credu bod angen i ni ailganfod eglurder ein neges, ac mae angen pobl ar lawr gwlad i'w chyfleu," meddai.
'Ddim yn cael y sylw ry'n ni'n ei haeddu'
Mae Mr Williams hefyd wedi beirniadu'r diffyg sylw mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn ei gael yn y cyfryngau, er bod gan y blaid 72 o ASau yn San Steffan.
"Mae pobl yn gofyn ble mae llais y Democratiaid Rhyddfrydol ar hyn o bryd. Dydy hynny ddim oherwydd diffyg ymdrech y blaid."
Mae'n credu bod y blaid wedi cael mwy o gyfle i gyfleu ei neges yn ystod yr etholiad cyffredinol diwethaf, pan gafodd Ed Davey sylw helaeth yn y cyfryngau.
Ond mae'n dweud nad yw'r un sylw'n cael ei roi i'r blaid rhwng etholiadau.
"Rydyn ni bellach yn cael ein cydnabod fel y drydedd blaid yn Nhŷ'r Cyffredin," meddai.
"Mae gennym ni gyfleoedd i siarad yn Nhŷ'r Cyffredin ac yng Nghwestiynau'r Prif Weinidog, ond dydw i ddim yn teimlo ein bod ni'n cael y sylw rydyn ni'n ei haeddu."
Er hyn, fe dderbyniodd bod yw diffyg eglurder ar negeseuon craidd y blaid yn rwystr iddyn.
"Ydy, mae eglurder y neges yn rhan o'r broblem hefyd, ond rydw i'n credu bod nifer o ffactorau, ac mae angen mynd i'r afael â nhw."
'Rydw i wrth fy modd ag etholiadau'
Er na fydd ei enw ar y papur pleidleisio yn yr etholiad cyffredinol nesaf, mae Mr Williams yn parhau'n llywydd Democratiaid Rhyddfrydol Ceredigion ac yn aelod o fwrdd y blaid yng Nghymru.
Mae'n dweud y bydd yn cefnogi'r ymgeisydd newydd ac yn parhau i ymgyrchu.
"Rydw i wrth fy modd ag etholiadau. Rydw i wedi mwynhau pob un ohonyn nhw. Fe enillais i dri, a cholli ychydig mwy.
"Rydw i'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod yn rhan o'r broses ddemocrataidd."
Gan gyfeirio at Tony Benn a Shirley Williams, mae'n dweud bod gadael San Steffan yn gallu rhoi mwy o amser i bobl wneud gwaith gwleidyddol y tu allan i'r Senedd.
"Mae fy ymrwymiad i'r blaid yn gadarn, a byddaf yn parhau i ymgyrchu ym mha ffordd bynnag y gallaf," meddai.
"Dim ond na fydd fy enw i ar y papur pleidleisio."
