Mam yn galw am dargedau cenedlaethol wrth i gyfradd marw-enedigaethau Cymru barhau’n uwch
Mae mam wedi galw am dargedau cenedlaethol gan fod cyfradd y babanod sy’n cael eu geni’n farw yng Nghymru yn parhau’n uwch na gweddill y DU.
Mae mwy na phedwar o bob 1,000 o fabanod yn cael eu geni’n farw yng Nghymru, cyfradd uwch nag unrhyw ran arall o’r DU.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod hyn yn “flaenoriaeth allweddol”. Mae’r llywodraeth newydd yn ystyried cyflwyno uchelgeisiau mesuradwy i leihau marw-enedigaethau, ac yn adolygu sut mae perfformiad gwasanaethau’n cael ei fonitro.
Fe wnaeth Ruth Mason, sy’n fam i dri o Ferthyr Tudful, roi genedigaeth i efeilliaid ym mis Awst 2018.
Roedd George a Henry, a fyddai wedi bod yn wyth oed erbyn hyn, wedi marw yn y groth ar ôl 28 wythnos.
“Mae’n ddinistriol,” meddai. “Ni ddylai unrhyw deulu orfod gadael yr ysbyty heb eu babi yn eu breichiau, ac mae’n newid cwrs eich bywyd yn llwyr.
“Mae’n effeithio ar berthnasoedd. Mae’n effeithio ar eich swydd. Mae’n effeithio ar eich bywyd teuluol, ac mae’n gwbl ddinistriol.
“Nid yn unig i’r rhieni sydd wedi mynd drwy’r profiad, ond i’r teulu ehangach ac i frodyr a chwiorydd hefyd.
“Ac mae’n eich newid chi. Mae’n eich newid chi’n llwyr.”
'Gobeithiol'
Byddai 1,000 o blant yn fyw yng Nghymru heddiw pe bai cyfradd Cymru wedi bod yr un fath â chyfradd y gwledydd sydd â’r gyfradd isaf yn Ewrop, yn ôl Jess Reeves o’r elusen Sands.
“Mae’n anodd iawn nodi’n union pam y gallai hynny fod, ond rydyn ni’n gwybod bod targedau cenedlaethol i leihau marwolaethau babanod yn canolbwyntio sylw ac yn gallu gwneud gwahaniaeth,” meddai.
“Rydyn ni wedi gweld hynny yng ngwledydd eraill y DU.”
Dywedodd Ruth Mason ei bod bellach yn “obeithiol mewn ffordd dawel” y byddai pethau’n newid.
“Rydyn ni’n clywed yr un straeon dro ar ôl tro gan deuluoedd,” meddai.
“Maen nhw’n dweud nad oedden nhw efallai wedi cael y gofal y dylen nhw fod wedi ei gael ar y pryd, nac yn enwedig ar ôl hynny chwaith.
“Mae’n hawdd cytuno â ni am yr hyn sydd angen ei wneud, ond mae angen i ni weld y newidiadau hynny’n digwydd go iawn.”