Merch 11 oed o Gymru wedi dioddef anafiadau difrifol mewn gwrthdrawiad yn Nyfnaint
Mae merch 11 oed o Gymru wedi dioddef anafiadau difrifol mewn gwrthdrawiad yn Nyfnaint, yn Lloegr, meddai’r heddlu.
Mae’r heddlu’n chwilio am dystion i’r gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar yr A30 ger Tedburn St Mary ddydd Iau.
Mae menyw oedd yn gyrru’r car a dau blentyn arall wedi'u cludo i’r ysbyty gyda mân anafiadau, ac mae’r fenyw yn parhau yn yr ysbyty.
Mae pawb a gafodd eu hanafu yn dod o Drefynwy yn ne Cymru, meddai Heddlu Cernyw a Dyfnaint.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 12:40 ddydd Iau yn dilyn gwrthdrawiad rhwng Volkswagen Polo a Ford Ranger ger cyffordd Fingle Glen.
Cafodd y ferch 11 oed, oedd yn teithio yn y Volkswagen Polo, anafiadau a fydd yn newid ei bywyd, meddai’r heddlu.
Cafodd ei chludo mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Plant Bryste, lle mae hi’n parhau i gael triniaeth.
Cafodd y fenyw oedd yn gyrru’r car a dau blentyn arall eu cludo i Ysbyty Brenhinol Dyfnaint a Chaerwysg.
Yn dilyn y digwyddiad, cafodd yr A30 ei chau. Fe wnaeth y ffordd ailagor yn llawn i’r ddau gyfeiriad am 20:40.
Mae swyddogion o’r Tîm Plismona Ffyrdd yn ymchwilio i amgylchiadau’r gwrthdrawiad.
Maen nhw’n apelio ar dystion neu unrhyw un sydd â lluniau camera cerbyd i gysylltu.