'Mae'n crisis': Cymru 'ddim yn barod' i ymdopi â phoblogaeth sy’n heneiddio
'Mae'n crisis': Cymru 'ddim yn barod' i ymdopi â phoblogaeth sy’n heneiddio
Dydi Cymru ddim yn barod i ymdopi â phoblogaeth sy’n heneiddio yn ôl corff sy’n cynrychioli dros 400 o gartrefi gofal yng Nghymru.
Yn ôl Fforwm Gofal Cymru mae angen gwella a chyflymu’r paratoadau i gefnogi pobl hŷn yng Nghymru.
Mae gwaith ymchwil yn dangos y bydd bron i miliwn o bobl dros 60 oed yn byw yng Nghymru erbyn 2030.
Ategu’r neges mae Comisynydd Pobl Hŷn Cymru sy’n dweud y bydd yn rhaid i lywodraeth nesaf Cymru flaenoriaethu’r pwnc.
Gyda datblygiadau ym maes iechyd yn golygu bod mwy o bobl yn byw yn hŷn, rhybuddio mae nifer yn y sector nad oes digon o gyllid na chapasiti yn y system i ddelio â’r heriau a ddaw.
Y gred yw y bydd angen mwy o ofal mewn cartrefi preswyl a hefyd yn eu cymunedau ond gyda phryder recriwtio mae Fforwm Gofal Cymru yn galw am wella’r gwaith cynllunio.
“’Da ni mewn crisis yn barod ond mae o am fynd yn waeth," meddai Kim Ombler (uchod) sydd â chartref gofal gyda 52 o welyau ym Mrynsiencyn, Ynys Môn.
“Mae rhaid i awdurdodau iechyd a chynghorau lleol edrych ar y ddemograffeg a gwneud yn siwr fod bob dim yn barod.
“Dydy nhw ddim- ‘dy nhw ddim yn siarad efo’u gilydd."
'Pryderus'
Yn ôl Kim Ombler sydd hefyd yn lefarydd i Fforwm Gofal Cymru dydi Cymru ddim yn barod i ddygymod a’r sgil effeithiau o weld poblogaeth yn heneiddio.
Yn y ganolfan hamdden ym Miwmares mae sesiynau yn cael eu cynnal i bobl hŷn gadw’n heini.
Mae unigolion sydd angen cymorth gyda chadw cydbwysedd a hyder yn gallu cael eu cyfeirio gan y gwasanaeth iechyd.
Yno hefyd mae cyfle i gymdeithasu mewn gweithdai gwnïo ac mae’r syniad o fynd yn hŷn yn bwnc llosg ar drothwy’r etholiad.
“Dwi yn poeni braidd am ofal yn y gymuned wrth i mi fynd yn hŷn," medd Elwen Green sy’n 65.
“Da ni di bod efo mam a dad a mam a dad yng nghyfraith yn mynd yn hen yn y gymuned, da ni di gweld trafferthion yn cael gofalwyr yn dod yna i edrych ar eu hôl nhw.
“Mae hynny’n bryder i mi”.
Poeni am ddarpariaeth gwasanaethau mae Alwen Mair Ingledew sy’n 70 oed.
“Dydi’r gwasanaethau eisoes heb fod yna imi, ges i clun newydd ac oedd o’n edrych fel swni gorfod aros am dair blynedd ar y gwasanaeth iechyd," meddai.
“Mi es i’n breifat felly yn anffodus a minnau wedi gweithio fy mywyd i gyd yn yr NHS."
'Heb ymateb'
Yn gred yw bod 908,728 o bobl dros 60 oed yn byw yng Nghymru gyda disgwyl i hynny gynyddu.
O rheini mae 331,023 dros 75 oed, 179,635 dros 80 oed a 86,057 dros 85 oed.
Cyngor Conwy a Phowys sydd a’r ganran uchaf o bobl hyn yn byw yno.
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Rhian Bowen-Davies, yn dweud fod yn rhaid paratoi at hyn.
“Da ni’n gwybod hyn es sbel felly be dwi’n edrych ar efo llywodraeth newydd Cymru yw i fynd ati ar yr heriau hynny ac i sicrhau fod y polisiau ni’n cael eu gweithredu yng Nghymru ac yn ein cymunedau a bod ein pobl hyn yn gweld hynny," meddai.
“Mae’r boblogaeth yn heneiddio ond dydi’n gwasanaethau ni heb ymateb yn y ffordd ‘da ni am weld yma."
Ychwanegodd y byddai’n rhoi pwysau ar y llywodraeth nesa i wireddu hynny.
Ymateb y pleidiau
Beth felly mae’r pleidiau yn ei ddweud?
Wrth ymateb i gwestiynau, mi gafodd ymgeiswyr y prif bleidiau yn etholaeth Bangor Conwy Môn gyfle i ymateb ddydd Mercher.
Dywedodd llefarydd ar y Democratiaid Rhyddfrydol eu bod “am fuddsoddi £300m mewn gofal cymdeithasol ac am helpu achub y gwasanaeth iechyd”.
Yn ôl y Blaid Lafur “y disgwyl yw y bydd hwn yn cynyddu fel her a bod angen paratoi felly mae angen twf yn yr economi a’r blaid lafur ar ddwy ochr yr M4 fod y gwasanaeth iechyd yn cael ei barchu".
Yn ôl Reform UK mae angen “mwy o ganolfannau llawfeddygol a canolfannau diagnostig (surgical hub a diagnostic centres) er mwyn arbed y system rhag y bottle neck rhwng gofal sylfaenol ac eilaidd (primary a secondary care)”.
Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig “mae mwy a mwy o adnoddau wedi’w rhoi mewn i’r system iechyd ers degawdau ond does dim gwelliant felly mae’n rhaid edrych ar y problemau systemig o fewn y system gofal a iechyd".
Yn ôl y Blaid Werdd mae angen buddsoddi mewn “gofal yn y gymuned a gofal sylfaenol (community care and primary care). Un o’r problemau ydi fod GP’s, deintyddion a nyrsys, dy' nhw ddim yn aros yn ein cymunedau a’r NHS”.
Yn ôl Plaid Cymru mae angen edrych ar “y cyllid sy’n dod o San Steffan ac ydi hynny yn seiliedig ar anghenion y boblogaeth yng Nghymru ac yn enwedig poblogaeth sy’n heneiddio, ac i awdurdodau lleol mae angen edrych ar y fformwiwla cyllido”.
