'Mae fy ngwlad wedi torri': Teulu o Iran yn siarad am y gyfundrefn am y tro cyntaf

Y Byd ar Bedwar

'Mae fy ngwlad wedi torri': Teulu o Iran yn siarad am y gyfundrefn am y tro cyntaf

Mae dynes o Iran sy’n byw yng Nghaerdydd yn dweud bod ei gwlad enedigol “wedi torri”.

Wrth siarad gyda rhaglen Y Byd ar Bedwar am y gwrthdaro yn Iran, dywedodd Nazanin Karimi: “Mae’n drist ofnadwy. Mae fy ngwlad wedi torri. Mae fy mab, fy mrawd, fy chwaer ac fy nheulu i gyd yn dal i fod yno.”

Fe wnaeth Nazanin ffoi o Iran yn dilyn y protestiadau yn y wlad yn 2022 yn dilyn marwolaeth Mahsa Amini, ymgyrchydd dros hawliau menywod. 

Fe gyrhaeddodd hi Brydain mewn cwch bychan, a bellach mae ganddi statws ffoadur.

Dyma’r tro cyntaf iddi hi a’i mab, Kaveh, siarad yn agored am y gyfundrefn yn Iran. 

Dywedodd Kaveh: “Mae wastad ofnau am be allai’r goblygiadau fod i’n teuluoedd ni, ond roedd gen i gywilydd yn fy hun ac reoddwn i’n teimlo’n hunanol wrth feddwl am fy nheulu fy hun.

“Rydyn ni’n wlad sy’n dioddef gyda’n gilydd, ac oherwydd hynny rydyn ni am siarad gyda’r cyfryngau, ac yn mynd i brotestio ym mhob man ar draws y byd.”

Fe symudodd Kaveh i Gymru yn 2016. Mae’n byw gyda’i wraig Dr. Gwennan Higham yng Nghaerdydd. 

Image
Dr.Gwennan Higham a’i gŵr, Kaveh Karimi (llun Gwennan Higham)
Dr. Gwennan Higham a’i gŵr, Kaveh Karimi (Llun Gwennan Higham)

“Mae hi’n ofnadwy o anodd yn Iran i fynegi dy farn neu fod yn ti dy hun," meddai. 

"Mae’r gyfundrefn yn rym creulon.”

Mae sawl protest fawrl wedi bod yn Iran dros y blynyddoedd diwethaf. Fis Ionawr, mae elusennau hawliau dynol yn dweud bod degau o filoedd o bobl wedi eu lladd yn ystod protestiadau yn erbyn y gyfundrefn. 

“Mae wedi bod y cyfnod anoddaf yn fy mywyd i - dwi wedi darganfod dyfnderoedd o dristwch newydd,” meddai Kaveh.

“Ond fe wnaeth y creulondeb a nifer y bobl sydd wedi cael eu lladd fy synnu i.”

Dywedodd Gwennan: “Dwi’n credu bod e’n anodd iawn i bobl Iran i ymlacio ar hyn o bryd."

"Maen nhw wedi bod dan gymaint o straen, ma rhaid dweud am ddegawde, ond dwi’n credu bod popeth ar hyn o bryd dan bwysau anferthol iawn. Ond wrth gwrs mae ‘na elfen o obaith posib fan hyn.

“Mae llawer o bobl wedi llawenhau rhywfaint bod rhywbeth yn newid, bod yr uwch arweinwydd wedi mynd. D’yw pobl Iran ddim o reidrwydd o blaid Donald Trump nac America, fe fydden nhw’n croesawu unrhyw wlad arall yn gwneud yr un peth. 

"I raddau, mae pobl yn gweld Trump fel achubiaeth.”

'Meddwl amdanyn nhw'

Mae Mitra Freeman yn ffrind i’r teulu a symudodd i Gymru astudio yn 2007. Mae ei brawd a’i thad yn dal i fyw yn Iran, ond d’yw hi heb glywed gennyn nhw ers i Israel a’r Unol Daleithiau ymosod ar Iran ar Chwefror 28.

“Dwi’n ei chael hi’n anodd i drio cysylltu â nhw a chlywed y ffôn yn canu a chanu a chanu, mae hynny’n anodd ac yn boenus," meddai.

Bedair awr wedi i’r taflegrau cyntaf daro Iran, fe wnaeth llywodraeth y wlad atal y rhyngrwyd, sydd wedi cyfyngu faint o wybodaeth sy’n gadael y wlad, a gallu Iraniaid i gyfathrebu a’i gilydd. 

“Dw i wedi trio anfon negeseuon ac maen nhw’n aros ar un tic, heb hyd yn oed gael eu delifro," meddai.

"Dw i wedi penderfynu anfon neges atyn nhw unwaith pob diwrnod, a phan ddaw’r rhyngrwyd yn ei ôl, fe fyddan nhw’n gwybod ‘mod i wedi bod yn meddwl amdanyn nhw. 

"Does dim llawer arall alla i ei wneud.”

Gwyliwch Y Byd ar Bedwar: Iran, Israel a’r UDA: Mawrth 9fed am 20:00 ar S4C, Clic a BBC iPlayer. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.