'Mab llawn cariad': Teyrnged i ddyn o Hwlffordd a fu farw mewn damwain beic modur
Mae teulu dyn o Sir Benfro fu farw mewn gwrthdrawiad beic modur wedi rhoi teyrnged iddo.
Bu farw Luke King, 35 oed, o Freystrop, ger Hwlffordd, ar ôl bod mewn damwain un cerbyd wrth yrru beic modur ar Ffordd Penfro, Hwlffordd ar ddydd Gwener 28 Awst.
Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd ei deulu ei fod yn “fab, ŵyr, nai, cefnder a ffrind oedd yn cael ei garu’n fawr iawn.”
“Mae’n gadael ei fam Hayley, ei gariad, ei neiniau a theidiau, modrybedd, ewythrod, sawl cefnder a nifer fawr o ffrindiau oedd yn meddwl y byd ohono fo. Yn anffodus, fe wnaeth ei dad ein gadael cyn ef.
“Roedd Luke yn gymeriad mawr oedd yn goleuo pob ystafell gyda’i egni heintus, ei chwerthiniad a gwên hyfryd. Roedd yn ddoniol, llawn cariad, direidus, gweithgar a chwbl fythgofiadwy.
“Roedd yn caru beiciau modur, wedi mopio â’i gi, Digger, ac yn cymryd balchder enfawr i’r gwaith adeiladu a gwaith tir. Roedd wedi sefydlu cwmni ei hun yn ddiweddar, rhywbeth oedd yn hynod o falch ohono ac wedi gweithio’n galed iawn i adeiladu.”
Ychwanegodd y teulu: “Fe wnaeth Luke fyw bywyd eithriadol mewn 35 mlynedd. Fe wnaeth e fyw ei fywyd i’r eithaf ac roedd yn mor hapus, gyda chymaint o’i flaen. Roedd e wedi cyflawni gymaint ond roedd yn teimlo fel mai megis dechrau yr oedd.
“Dim ond un Luke oedd, ac fe fyddwn ni’n methu ei chwerthiniad, ei wên, ei cwtshys mawr a’i bersonoliaeth enfawr pob dydd. Fe fyddwn ni’n cadw fo gyda ni ac yn ei garu am byth.”