Cafodd cwest ei agor i farwolaeth padlfyrddiwr 21 oed mewn llyn yn Eryri ddydd Llun.
Y gred yw fod Rowan Booth o Brestatyn wedi disgyn i mewn i Lyn Geirionydd ger Llanrwst tra'n ceisio sefyll i fyny.
Clywodd y cwest yn Rhuthun nad oedd yn debygol fod Mr Booth yn gwisgo offer diogelwch er mwyn ei helpu i arnofio pan aeth i mewn i'r dŵr.
Dywedodd y crwner John Gittins fod yr heddlu wedi cael gwybod gan badlfyrddiwr arall ar noson 7 Gorffennaf fod Mr Booth yn boddi rhyw 20m o'r lan.
Daeth y Gwasanaeth Tân o hyd i gorff Mr Booth mewn dyfnder o 10 metr (dros 30 troedfedd).
Cafodd rheswm cychwynnol am ei farwolaeth ei gofnodi fel boddi.
Cafodd y cwest ei ohirio er mwyn i'r awdurdodau gasglu mwy o dystiolaeth.
Mewn teyrnged i Rowan Booth ar-ein, dywedodd ei deulu: "Caiff Rowan ei garu am byth, bydd colled ar ei ôl bob un diwrnod, ac fe fydd yn aros yn ein calonnau am byth."
Dyn arall ar goll
Yn y cyfamser mae Heddlu'r Gogledd wedi cyhoeddi eu bod yn chwilio am ddyn arall sydd ar goll yn Llyn Geirionydd ers nos Sul.
Mewn datganiad ddydd Llun, dywedodd y llu: "Bydd mwy o bresenoldeb gan y gwasanaethau brys yn Llyn Geirionydd heddiw wrth i’r heddlu barhau i chwilio am ddyn sydd ar goll.
"Galwyd y gwasanaethau brys tua 7.10pm ar 19 Gorffennaf yn dilyn pryderon am ddyn.
"Er gwaethaf chwilio dros nos, mae’n dal ar goll.
"Mae ei deulu agosaf wedi cael gwybod ac yn derbyn cefnogaeth."
Ychwanegodd y llu: "Gofynnwn i aelodau o’r cyhoedd osgoi’r ardal heddiw er mwyn caniatáu i’r gwasanaethau brys barhau â’u gwaith.
"Dylai unrhyw un a oedd ger y llyn neithiwr, ac nad yw wedi siarad â’r heddlu eisoes, gysylltu â ni drwy ein gwefan neu drwy ffonio 101, gan nodi’r cyfeirnod O116523."