Lloyds yn ymchwilio wedi i gwsmeriaid weld gwybodaeth o gyfrifon pobl eraill

Lloyds

Mae Grŵp Bancio Lloyds yn dweud ei fod yn ymchwilio yn dilyn adroddiadau bod rhai cwsmeriaid a oedd yn defnyddio apiau Halifax, Lloyds a Bank of Scotland wedi gweld gwybodaeth pobl eraill ar eu cyfrifon. 

Dywedodd rhai cwsmeriaid y banciau eu bod wedi gallu gweld taliadau a ffioedd a oedd yn ymddangos yn perthyn i gyfrifon eraill.

Mae Grŵp Bancio Lloyds wedi ymddiheuro i gwsmeriaid gan ddweud ei fod yn ymchwilio i’r hyn a ddigwyddodd.

Dywedodd llefarydd ar ran y grŵp: "Mae’n ddrwg gennym fod rhai cwsmeriaid wedi cael trafferth gweld eu trosglwyddiadau yn yr ap am gyfnod byr y bore 'ma. 

"Cafodd y broblem ei datrys yn gyflym ac rydym yn ymchwilio i’r hyn a ddigwyddodd."

Roedd cannoedd o gwsmeriaid wedi adrodd am broblemau ar Downdetector UK, gwefan sy'n nodi toriadau i wasanaethau ar-lein, fore Iau.

Dywedodd yr arbenigwr arian Martin Lewis ar X fod "pobl wedi bod yn anfon negeseuon ataf y bore 'ma am gael gweld gwybodaeth pobl eraill".

Roedd sawl person wedi ymateb iddo yn dweud eu bod wedi gweld manylion nad oeddent yn eu hadnabod.

Nid yw'n glir ar hyn o bryd faint o ddefnyddwyr sydd wedi cael eu heffeithio gan y broblem.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.