Llosgi ambiwlansys yn 'ymosodiad gwrth-semitaidd ysgytwol' medd Starmer

Golders Green PA

Mae Prif Weinidog y DU wedi disgrifio digwyddiad lle y cafodd pedwar ambiwlans eu rhoi ar dân yn Llundain fel un "ysgytwol iawn". 

Mae'r heddlu wedi dweud eu bod yn ymchwilio i achos posib o drais gwrth- semitaidd yn sgil yr hyn sydd wedi digwydd. 

Y Gwasanaeth Ambiwlans Cymunedol Iddewig (Hatzola) oedd yn berchen ar y pedwar ambiwlans meddai Heddlu'r Met.

Dywedodd Keir Starmer bod ei "feddyliau gyda'r gymuned Iddewig sydd yn deffro bore ma i'r newyddion echrydus yma. 

Dyw gwrth-semitiaeth ddim yn rhywbeth y byddwn ni yn ei ddioddef mewn cymdeithas. Mae'n rhaid i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda'r heddlu."

Cafodd swyddogion eu galw i Ffordd Highfield yn Golders Green am tua 01.45 fore dydd Llun wedi adroddiadau o dân yno.  

Roedd yn rhaid i rai pobl adael eu tai fel mesur diogelwch ac fe gafodd ffyrdd eu cau.

Dywedodd y Gwasanaeth Tân bod silindrau oedd yn y cerbydau wedi ffrwydro ac wedi achosi i ffenestri fflatiau gerllaw i falu.

Chafodd neb eu brifo ac mae'r tân wedi ei ddiffodd erbyn hyn.

Yn ôl yr heddlu maen nhw yn chwilio am dri pherson fel rhan o'i hymchwiliad ar hyn o bryd.

Mae Hatzola yn fudiad gwirfoddol Iddewig sydd wedi bod yn cynnig ymateb meddygol mewn argyfwng ac yn cludo pobl i ysbytai am ddim.

Mae wedi bod yn gwasanaethu cymuned Golders Green sydd yng ngogledd Llundain ers 1979. 

Mae'r gymuned yn un sydd gyda phoblogaeth uchel o bobl Iddewig.

Dywedodd yr Uwch Arolygydd Sarah Jackson: "Rydyn ni yn gwybod bod y digwyddiad yma yn mynd i achosi pryder mawr yn y gymuned ac fe fydd swyddogion yn parhau yn y safle er mwyn cynnal ymchwiliadau brys."  

Does yna neb wedi cael ei harestio eto ond mae'r heddlu yn awyddus i bobl gysylltu os oes gyda nhw unrhyw wybodaeth. 

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.