Llangollen: Plentyn ysgol wedi ei anafu ar ôl gwrthdrawiad â lori
Mae swyddogion yn apelio am dystion ar ôl i ddisgybl ysgol gael ei anafu mewn gwrthdrawiad gyda lori yn Llangollen.
Fe gafodd yr heddlu wybod tua 08.50 ddydd Gwener am wrthdrawiad ffordd ar Stryd y Castell rhwng disgybl ysgol a cherbyd nwyddau trwm (HGV).
Mae gwaith ffordd a goleuadau traffig dros dro yn yr ardal ar hyn o bryd, ac roedd sawl cerbyd ar y bont adeg y digwyddiad, meddai'r heddlu.
Mae swyddogion yn annog unrhyw un a allai fod wedi gweld y digwyddiad, neu sydd â lluniau camera dangosfwrdd ohono, i gysylltu â nhw.