Llandudno: Dyn i ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o lofruddio
Fe fydd dyn yn ymddangos yn y llys ddydd Mawrth ar gyhuddiad o lofruddio dynes mewn tŷ yn Llandudno, Sir Conwy, nos Sadwrn.
Mae Chris Ellis, 36 oed, wedi ei gyhuddo o lofruddio Eleanor Rae O'Dell ar Ffordd Sant Seiriol yn y dref am tua 20:00 ar y noson dan sylw.
Fe fydd Mr Ellis yn ymddangos mewn gwrandawiad yn Llys Ynadon Llandudno.
Mae ymchwiliadau'r heddlu yn parhau wrth i swyddogion geisio sefydlu'r hyn a ddigwyddodd.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi yn apelio ar unrhyw un oedd yn ardal Ffordd Sant Seiriol tua 20:00 nos Sadwrn i gysylltu gyda nhw.
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai gynorthwyo'r ymchwiliad gysylltu â'r heddlu drwy'r gwasanaeth sgwrsio byw ar eu gwefan neu drwy ffonio 101 a dyfynnu’r cyfeirnod O178285.