Lerpwl yn diswyddo Arne Slot fel rheolwr
Mae Arne Slot wedi cael ei ddiswyddo fel rheolwr Clwb Pêl-droed Lerpwl.
Mewn datganiad ddydd Sadwrn, dywedodd y clwb fod y penderfyniad i ddiswyddo Slot yn un "anodd."
Daw hyn flwyddyn ar ôl iddo ennill Uwch Gynghrair Lloegr yn ei dymor cyntaf fel rheolwr y clwb.
Fe wnaeth Lerpwl orffen yn bumed yn y gynghrair y tymor diwethaf a sicrhau lle yng Nghynghrair y Pencampwyr y tymor nesaf.
Dywedodd perchnogion Lerpwl: "Mae cyfraniad Arne i'r clwb yn ystod ei gyfnod gyda ni wedi bod yn arwyddocaol, ystyrlon - ac yn bwysicaf oll i ni a'r cefnogwyr - yn llwyddiannus.
“Felly, ni allai ein gwerthfawrogiad am bob dim mae wedi’i gyflawni fod yn fwy... bydd ganddo bob amser le arbennig yn hanes y clwb fel yr hyfforddwr a enillodd 20fed teitl cynghrair Lerpwl.
“Cafodd y cyflawniad hwnnw – oedd yn fwy nodedig gan iddo ei gyflawni yn ei dymor cyntaf wrth y llyw – ei adeiladu ar hyfforddi ac arweinyddiaeth ragorol bob dydd.
“Helpodd hefyd i arwain y clwb drwy un o’r cyfnodau anoddaf y gallwn eu dychmygu yn dilyn colli Diogo Jota.
“Mae Arne yn gadael gyda’n diolchgarwch, gyda theitl Uwch Gynghrair i’w enw, a gyda’r wybodaeth y bydd croeso iddo ef a’i deulu bob amser yn Anfield.”
Andoni Iraola, sydd newydd adael ei swydd fel rheolwr Bournemouth, yw'r ffefryn i gymryd lle Slot.
Fe arweiniodd Bournemouth i safleoedd Cynghrair y Pencampwyr am y tro cyntaf yn eu hanes y tymor hwn.