Leigh Halfpenny: 'Dwi mor ddiolchgar am bopeth y mae rygbi wedi ei roi i mi'
Mae Leigh Halfpenny wedi dweud fod rygbi yn "golygu popeth" iddo ar ôl iddo chwarae yng Nghaerdydd am y tro olaf nos Wener.
Cyhoeddodd Halfpenny ddechrau Mai y bydd yn ymddeol o rygbi ar ddiwedd y tymor.
Llwyddodd Caerdydd i hawlio eu lle yng ngemau ail-gyfle y Bencampwriaeth Rygbi Unedig ar ôl buddugoliaeth yn erbyn y Stormers yn y brifddinas.
Fe ddaeth Halfpenny ymlaen gydag ychydig funudau o'r gêm yn weddill nos Wener, gyda'r dorf ym Mharc yr Arfau ar eu traed i groesawu un o fawrion rygbi Cymru i'r cae.
Cafodd ei amgylchynu gan gefnogwyr ar ddiwedd y gêm a oedd yn awyddus i ddangos eu diolchgarwch iddo.
Wrth siarad ar ôl y gêm, dywedodd ei fod yn "hynod o ddiolchgar. I gael y cyfle yma gan Gaerdydd fel bachgen 18 oed i ddod yma ac atgofion anhygoel ac i allu dod yn ôl i Gaerdydd eleni a gorffen yma o flaen y cefnogwyr ym Mharc yr Arfau, mae'n golygu lot ac mae'n arbennig.
"Dwi wedi fy llethu i fod yn onest dros yr wythnos diwethaf ers y cyhoeddiad, y negeseuon gan bawb, dwi wedi cael fy syfrdanu a dwi mor ddiolchgar i bawb sydd wedi fy nghefnogi ar hyd y daith.
"Hebddyn nhw, ni fyddai hyn wedi bod yn bosib, felly yn teimlo mor ddiolchgar ac roedd y bechgyn yn anhygoel heddiw, i gael y fuddugoliaeth a chyflawni rhywbeth arbennig a chyrraedd y gemau ail-gyfle. "
Wrth gael ei holi gan Jamie Roberts am yr hyn y mae rygbi yn olygu iddo, dywedodd Halfpenny ei fod yn "golygu popeth."
"Cyn gynted ag y dechreuais i chwarae'r gêm, fe wnes i ddisgyn mewn cariad â rygbi. Wrth dyfu fyny o gwmpas Gorseinon a chwarae gyda nhw, dwi mor ddiolchgar i bawb sydd wedi fy nghefnogi i ar hyd y daith i'r eiliad yma rwan," meddai.
"Dwi mor ddiolchgar am bopeth y mae rygbi wedi ei roi i mi."
Mae Halfpenny wedi chwarae dros 200 o gemau clwb, gan gynnwys dros Gaerdydd a'r Scarlets, a chael dros 100 o gapiau dros Gymru.
Yn ystod ei yrfa fe enillodd 101 o gapiau dros Gymru, gan ennill dwy Gamp Lawn, a sgorio cyfanswm o 801 o bwyntiau dros ei wlad.
Chwaraeodd bedair gêm brawf i'r Llewod a chafodd ei enwi'n chwaraewr y gyfres yn erbyn Awstralia yn 2013.
Dechreuodd a gorffennodd Halfpenny ei yrfa gyda Chaerdydd a chwaraeodd hefyd i Toulon, y Scarlets, y Crusaders a'r Harlequins, gan ennill Cwpan Pencampwyr Ewrop a Chwpan Her yn ystod ei yrfa.