Dathlu cwilt cywrain hanesyddol ar furlun yn Wrecsam
Mae cwilt cywrain nodedig gafodd ei greu gan deiliwr o Wrecsam wedi cael ei ddathlu ar ffurf murlun trawiadol ar adeilad yn y ddinas.
Cafodd Cwilt y Teiliwr, sydd yn un o uchafbwyntiau casgliad Amgueddfa Cymru, ei greu gan James Williams, prif deiliwr milwrol o'r dref, rhwng 1842 a 1852.
Cafodd y murlun ei gwblhau gan yr artist Liam Stokes-Massey ac mae i'w weld ar adeilad yn Stryd y Coleg.
Mae'r artist yn gyfrifol am nifer o furluniau eraill yn Wrecsam hefyd sydd yn dathlu bywyd a hanes y dref.
Mae'r cwilt gwreiddiol yn cynnwys delwedd o Bont Menai a gwblhawyd gan Thomas Telford ym 1826.
Mae traphont Cefn ger Wrecsam yng nghanol y darn, a phagoda Tsieineaidd yn y gornel uchaf.
Mae'r golygfeydd eraill y cynnwys themâu Beiblaidd - arch Noa, Jona a’r morfil, Cain yn lladd Abel, a'r ddelwedd ganolog o Adda yn enwi'r anifeiliaid.
Ailgylchu
Gwnaeth James Williams ei gwilt drwy ailgylchu darnau o wlân, gan ddefnyddio lifrau milwrol mae’n debyg.
Mae'r cwilt cyfan yn cynnwys 4,525 o ddarnau mân.
Yn ôl hanes teuluol, bu James Williams wrthi am ddegawd yn pwytho’r cwilt yn ystod ei oriau hamdden.
Daeth galw i’w arddangos yn gyhoeddus ac ym 1876 dangoswyd y cwilt mewn arddangosfa fawr a gynhaliwyd yn Wrecsam i gyd-fynd ag Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn honno.
Yn ddiweddarach, ym 1925 bu’r cwilt ar arddangos yn Wembley, ac yn Wrecsam unwaith eto pan ddaeth yr Eisteddfod yn ôl i’r dref ym 1933.
Mae tystiolaeth o gyfrifiadau ardal Wrecsam yn dangos mai brodor o’r dref oedd James Williams.
Fe’i ganed ym 1818 ac erbyn y 1850au roedd ganddo weithdy teilwra yn ei gartref yn Stryd y Coleg, ger Eglwys y Plwyf.
Bu farw ym 1895 ac fe etifeddwyd y busnes gan ei fab.
Ym 1935, daeth y cwilt i feddiant yr Amgueddfa drwy ei ŵyr, Richard Williams, a oedd hefyd yn deiliwr fel ei dad a’i daid.
Prif lun: Amgueddfa Cymru