O leiaf saith o bobl wedi eu lladd mewn gwrthdrawiad rhwng dau drên yn yr Aifft
Mae o leiaf pedwar o bobl wedi marw a dros 100 wedi eu hanafu mewn gwrthdrawiad rhwng dau drên ger ardal Giza yn yr Aifft.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad i’r de o Cairo ddydd Sul ac mae adroddiadau bod nifer o gerbydau wedi mynd oddi ar y cledrau.
Dywedodd awdurdod rheilffyrdd y wladwriaeth fod trên oedd yn teithio o Giza i Fayoum, tua 100km (62 milltir) i’r de o Cairo, wedi taro cefn trên arall. Roedd yr ail drên yn teithio rhwng Cairo ac Aswan, yn ne’r Aifft.
Yn ôl yr asiantaeth newyddion leol al-Masry al-Youm, fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng gorsafoedd Kafr Ammar ac Al-Raqqa.
Dywedodd Adran Iechyd Llywodraeth yr Aifft fod 72 o ambiwlansys wedi cael eu hanfon i safle’r gwrthdrawiad.
Dywedodd Arlywydd yr Aifft, Abdul Fattah al-Sisi: “Rwy’n dilyn y sefyllfa ar ôl y gwrthdrawiad rhwng y trenau gyda phryder mawr.
"Rwy’n cydymdeimlo’n ddwys â theuluoedd y rhai a gollodd eu bywydau, ac yn dymuno gwellhad buan i’r rhai gafodd eu hanafu.
"Rwyf wedi rhoi cyfarwyddyd i asiantaethau’r wladwriaeth ddarparu’r gofal meddygol angenrheidiol, ymchwilio’n brydlon i amgylchiadau’r ddamwain, a dwyn unrhyw un y maen nhw'n canfod sydd wedi bod yn esgeulus i gyfrif.”
