O leiaf 82 wedi marw yn dilyn ffrwydrad mewn pwll glo yn Tsieina
Mae o leiaf 82 o bobl wedi marw yn dilyn ffrwydrad mewn pwll glo yng ngogledd Tsieina, yn ôl cyfryngau'r wlad.
Fe ddigwyddodd y ffrwydrad nwy yng nghloddfa Liushenyu, yn Nhalaith Shanxi i’r de-ddwyrain o’r brifddinas Beijing.
Mae cannoedd o achubwyr wedi cael eu hanfon i'r safle.
Fe wnaeth swyddogion achub newid nifer y meirw mewn diweddariad yn hwyr ddydd Sadwrn, ar ôl dweud yn gynharach fod o leiaf 90 o bobl wedi marw.
Mae mwy 'na 100 o bobl wedi cael eu cludo i'r ysbyty, wrth i’r gwaith achub ar y safle barhau.
Digwyddodd y ffrwydrad am 19:29 amser lleol ddydd Gwener (11:29 GMT).
Yn dilyn y digwyddiad, galwodd Arlywydd Tsieina Xi Jinping am bob ymdrech i gael ei wneud i drin y rhai sydd wedi eu hanafu ac i chwilio am oroeswyr.
Gofynnodd hefyd i'r llywodraeth ymchwilio i achos y ffrwydriad gan ddwyn unrhyw rai fyddai wedi bod yn gyfrifol i gyfrif.
Nid yw achos y ffrwydrad nwy wedi'i ddatgelu eto, ond yn ôl cyfryngau'r wladwriaeth roedd lefelau carbon monocsid - sydd yn nwy gwenwynig iawn, di-arogl - yn y pwll glo yn "uwch na lefelau cyfreithlon".
Llun: Xinhua