Ymosodiadau Golders Green: Cyhuddo dyn o geisio llofruddio
Mae dyn 45 oed wedi cael ei chyhuddo o geisio llofruddio ar ôl i ddau ddyn Iddewig gael eu trywanu yn Golders Green, gogledd Llundain, ddydd Mercher, meddai Heddlu'r Met.
Y dyn sydd wedi ei gyhuddo yw Essa Suleiman, ac mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Westminster ddydd Gwener.
Mae wedi cael ei gyhuddo o ddau gyhuddiad o geisio llofruddio ac un cyhuddiad o fod â chyllell yn ei feddiant mewn man cyhoeddus yn ystod y digwyddiad yn Golders Green.
Cafodd Suleiman, o Camberwell, de Llundain, ei gyhuddo hefyd o geisio llofruddio mewn perthynas â digwyddiad arall yn Great Dover Street yn Southwark yn gynharach yr un diwrnod.
Yn y cyfamser mae lefel bygythiad terfysgaeth ar y DU wedi codi i fod yn "ddifrifol" yn dilyn yr ymosodiadau ar ddau ddyn Iddewig yn Golders Green, Llundain.
Mae cynyddu'r lefel i'r statws yma yn golygu bod ymosodiad terfysgol yn "debygol iawn" meddai'r awdurdodau.
Cyhoeddodd y Ganolfan Dadansoddi Terfysgaeth ar y Cyd y penderfyniad ddydd Iau, ddiwrnod ar ôl i'r ddau ddyn gael eu trywanu yng ngogledd Llundain ac yn dilyn cyfres o ymosodiadau mewn ardaloedd Iddewig yn ystod yr wythnosau diwethaf.
Gosododd y Ganolfan, sydd wedi'i leoli o fewn MI5 ond sy'n gwneud asesiadau annibynnol, y lefel bygythiad yn flaenorol i "sylweddol", sy'n golygu bod ymosodiad yn "debygol".
Nid yw'r penderfyniad o ganlyniad i ymosodiad Golders Green yn unig meddai'r Swyddfa Gartref, gan ychwanegu bod lefel y bygythiad terfysgol yn y DU wedi bod yn "codi ers peth amser, wedi'i yrru gan gynnydd mewn bygythiad terfysgol Islamaidd ac asgell dde eithafol ehangach gan unigolion a grwpiau bach sydd wedi'u lleoli yn y DU".
Mae hefyd yn dod yn erbyn cefndir o "fygythiadau corfforol cynyddol sy'n gysylltiedig â gwladwriaethau sy'n annog gweithredoedd o drais, gan gynnwys yn erbyn y gymuned Iddewig", ychwanegodd.
Y gymuned Iddewig
Dywedodd Pennaeth Plismona Gwrthderfysgaeth, y Comisiynydd Cynorthwyol Laurence Taylor, fod swyddogion wedi gweld “bygythiad uwch” i’r gymuned Iddewig.
Wrth siarad y tu allan i New Scotland Yard, dywedodd: “Mae ein gwaith yn cynyddu ar draws nifer o ideolegau, ac o fewn hynny, rydym yn gweld bygythiad cynyddol i unigolion a sefydliadau Iddewig ac Israelaidd yn y DU.
“Rydym hefyd yn gweithio yn erbyn sefyllfa fyd-eang nad oes modd ei rhagweld sydd â chanlyniadau yn nes at adref, gan gynnwys bygythiadau corfforol gan actorion sy’n gysylltiedig â gwladwriaethau.”
Gwrthododd wneud sylwad ar adroddiad Channel 4 News fod y dyn sydd wedi ei gyhuddo o gyflawni ymosodiadau honedig Golders Green, Essa Suleiman, wedi gadael ysbyty seiciatrig yn ne Llundain yn ystod y dyddiau diwethaf.