Bellamy i Burnley? Adroddiadau fod y clwb o Loegr ar ôl prif hyfforddwr Cymru
Mae adroddiadau fod Clwb Pêl-droed Burnley yn Uwch Gynghrair Lloegr gyda diddordeb gwirioneddol mewn ceisio penodi Craig Bellamy yn brif hyfforddwr.
Mae'r clwb wedi penodi Michael Jackson dros dro tan ddiwedd y tymor ar ôl ymadawiad Scott Parker o'r swydd ddydd Iau.
Ond y gred yw bod diddordeb gwirioneddol gan Burnley mewn ceisio denu Bellamy i'r swydd wedi iddo weithio i'r clwb yn flaenorol.
Pedair gêm sydd gan y clwb yn weddill o'r tymor, gyda'r gyntaf yn erbyn Leeds nos Wener. Disgyn i'r Bencampwriaeth fydd Burnley y tymor nesaf ar ôl tymor trychinebus yn yr Uwch Gynghrair.
Mae Craig Bellamy wedi bod yn brif hyfforddwr dros dro ar Burnley yn y gorffennol - a hynny ar ôl i Vincent Kompany adael prif swydd y clwb i ymuno â Bayern Munich ym mis Mai 2024.
Ychydig fisoedd yn ddiweddarach, ym mis Gorffennaf 2024, penodwyd Bellamy yn brif hyfforddwr ar Gymru.
Mewn datganiad dydd Iau, dywedodd Burnley fod y broses o chwilio am olynydd i Scott Parker wedi dechrau:
"Bydd Mike Jackson, gyda chefnogaeth y staff stafell gefn presennol, yn cymryd yr awenau dros dro am bedair gêm Uwch Gynghrair y Clarets sy'n weddill, gan ddechrau gyda gêm oddi cartref yn erbyn Leeds United ddydd Gwener.
"Mae'r broses o benodi Prif Hyfforddwr parhaol newydd cyn tymor 2026/27 wedi dechrau."