Lansio ymgynghoriad ar newidiadau i'r rheolau treth ar gyfer llety gwyliau yng Nghymru
Mae ymgynghoriad 12 wythnos wedi ei lansio ar newidiadau i'r rheolau treth ar gyfer llety gwyliau yng Nghymru.
Dywed Llywodraeth Cymru fod adolygiad o'r trothwy yn rhoi amset i 'lais busnesau, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill' am gyfeiriad y polisi yn y dyfodol.
Ers 1 Ebrill 2023, mae'n rhaid i’r eiddo fod ar gael i’w osod am o leiaf 252 diwrnod y flwyddyn, ac wedi’i osod am o leiaf 182 diwrnod yn y flwyddyn flaenorol.
Os nad ydi llety yn cyrraedd y targed yma mae'n cael ei ystyried fel ail gartref, felly mae'n rhaid i berchnogion dalu treth cyngor.
Fe fydd yr ymgynghoriad yn ystyried a yw'r trothwy o 182 diwrnod wedi'i osod ar y lefel gywir a pha effaith y gallai 'gostyngiad cymedrol' ei chael yn ôl y llywodraeth.
Fe fydd pum eithriad newydd yn cael eu cynnig ar gyfer eiddo hunanddarpar na fyddai’n addas i’w defnyddio fel cartrefi parhaol.
Gallai'r mathau hyn o eiddo gynnwys eiddo sy'n rhan o fusnes ehangach, eiddo aml-uned mawr, eiddo sy'n destun cyfyngiad cynllunio perthnasol, eiddo o fewn cwrtil cartref y perchennog, ac eiddo ar fferm y perchennog.
Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Gyllid, Elin Jones: "Roedd ein maniffesto yn cynnwys ymrwymiad i barhau i adolygu'r trothwy gosod o 182 diwrnod ac i greu eithriadau newydd, clir a rhesymol lle na fyddai llety hunanddarpar yn gymwys i fod yn gartref preifat.
"Dw i wedi clywed sylwadau gan nifer o fusnesau sy'n gwneud cyfraniad gwerthfawr i'w heconomïau lleol ond nad ydyn nhw'n cyrraedd y trothwy presennol.
Ychwanegodd: "Bydd yr ymgynghoriad hwn yn ein helpu i ddod o hyd i ateb sy'n gweithio'n well i bawb, gan gynnwys busnesau, awdurdodau lleol ac ardaloedd lleol.
"Dw i wedi ymrwymo i gael y cydbwysedd cywir – cadw cartrefi yn ein cymunedau a rhoi i dwristiaeth y cymorth angenrheidiol i ffynnu."