Labordy newydd i sgrinio babanod yng Nghymru am fwy o gyflyrau
Fe fydd labordy newydd yn cael ei adeiladu yn Ysbyty Athrofaol Cymru a fydd yn rhoi digon o le i ehangu’r profion am gyflyrau prin mewn babanod newydd-anedig.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd Gwasanaeth Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig Cymru Gyfan yn cael ei ehangu i gynnwys profion am ddegfed cyflwr prin mewn babanod newydd-anedig.
Ar hyn o bryd, mae’r rhaglen sgrinio newydd-anedig yn sgrinio pob babi sy’n cael ei eni yng Nghymru (tua 28,000 y flwyddyn) am naw clefyd prin ond difrifol, ond nid yw cyfleusterau profi presennol y gwasanaeth yn ddigon mawr i gyflwyno profion newydd.
Mewn cyhoeddiad, dywedodd y Llywodraeth y bydd y buddsoddiad o £1.21 miliwn ar gyfer y labordy newydd, yn ogystal â’r cyllid ychwanegol o £529,000, yn golygu y bydd modd ychwanegu Tyrosinemia Etifeddol Math 1 at y naw cyflwr sydd eisoes yn cael eu sgrinio ar eu cyfer.
Mae Tyrosinemia Math 1 yn gyflwr genetig prin sy’n gallu arwain at glefyd difrifol yr afu, gyda symptomau yn cynnwys methu â thyfu a magu pwysau ar y gyfradd ddisgwyliedig yn ystod misoedd cyntaf bywyd y babi.
Rhoi triniaethau “yn gynnar”
Yn ôl Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, mae pob babi newydd-anedig yn cael ei sgrinio gan ddefnyddio smotiau gwaed sych (sy’n cael eu casglu pan fydd y babi rhwng pedwar a chwe diwrnod oed) ar gyfer y naw cyflwr canlynol:
- Phenylketonuria (PKU)
- Isthyroidedd cynhenid (CHT)
- Ffibrosis systig (CF)
- Diffyg acyl CoA dehydrogenase cadwyn canolig (MCADD)
- Anhwylderau crymangelloedd (SCD)
- Homocystinuria (HCU)
- Clefyd wrin surop masarn (MSUD)
- Acidaemia isovaleric (IVA)
- Asiduria glutarig math 1 (GA1)
Mewn datganiad, fe ddywedodd y Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol, Nerys Evans:
“Mi fydd y labordy newydd yma yn moderneiddio ein seilwaith sgrinio newydd-anedig yng Nghymru ac yn ei ddiogelu ar gyfer y dyfodol.
“Ry’n ni’n gwybod bod sgrinio yn achub bywydau ac mae’r datblygiad yma yn golygu y byddwn ni mewn sefyllfa dda i ymateb i ddatblygiadau ac argymhellion sgrinio yn y dyfodol,” meddai.
Ychwanegodd Dr Sikha de Souza, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig yn helpu i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i fabanod.
“Drwy ganfod cyflyrau iechyd difrifol yn fuan ar ôl eu geni, mae’n golygu bod modd rhoi triniaethau yn gynnar a all wella canlyniadau ac atal cymhlethdodau gydol oes.”
