Kevin Keegan, seren y bêl gron, wedi marw'n 75 oed
Mae un o sêr disgleiriaf pêl-droed Lloegr, Kevin Keegan, wedi marw yn 75 oed yn dilyn cyfnod o waeledd.
Ar ôl gyrfa lwyddiannus fel chwaraewr i dimau fel Lerpwl yn Lloegr a Hamburg yn yr Almaen, fe aeth yn ei flaen i reoli nifer o glybiau, gan gynnwys Newcastle, Manchester City a Fulham.
Yn ystod ei gyfnod yn Hamburg fe enillodd y Ballon d'Or ddwywaith - yn 1978 a 1979.
Roedd yn rheolwr ar Loegr rhwng 2001-2005.
Mewn teyrnged iddo, dywedodd ei deulu: "Gyda thristwch mawr rydym yn cyhoeddi bod Kevin Keegan wedi marw yn 75 oed.
"Roedd y cyn-chwaraewr a rheolwr Lloegr wedi bod yn brwydro yn erbyn canser, ac roedd ei wraig a'i ferched o'i gwmpas yn ei eiliadau olaf.
"Roedd Kevin, a enillodd y Ballon d'Or ddwywaith, yn ŵr, yn dad ac yn daid annwyl iawn.
"Hoffai'r teulu ddiolch i dîm meddygol anhygoel Kevin am eu holl gefnogaeth.
"Mae hwn yn gyfnod hynod anodd, ac maent yn gofyn am ofod a phreifatrwydd."
Inline Tweet: https://twitter.com/England/status/2079229857330839647
Mae nifer o glybiau wedi cyhoeddi teyrngedau yn dilyn y cyhoeddiad - gan gynnwys Hamburg, Newcastle a Manchester United.
Dywedodd UEFA mewn datganiad ddydd Llun mewn ymateb i'r newyddion am ei farwolaeth eu bod yn "hynod drist o glywed am farwolaeth cyn-gapten a hyfforddwr Lloegr, Kevin Keegan.
"Yn ystod gyrfa nodedig, enillodd Gwpan Ewrop, dau Gwpan UEFA a dau wobr Ballon d'Or.
"Mae ein meddyliau gyda'i deulu a'i ffrindiau yn ystod y cyfnod anodd hwn."