'Yr ysgrifen ar y mur': Keir Starmer ‘yn paratoi i roi’r gorau iddi’ yr wythnos nesaf

Keir Starmer

Mae Keir Starmer wedi dod i’r casgliad y bydd rhaid iddo roi’r gorau i’w swydd yn Brif Weinidog, meddai rhai o’r rheini sydd agosaf iddo wrth y papurau newydd ddydd Sul.

Dywedodd The Observer bod Keir Starmer bellach yn sylweddoli nad oes ganddo’r gefnogaeth i barhau wedi cyfarfodydd gyda ffigyrau blaenllaw yn ei blaid.

Daw ei benderfyniad wedi buddugoliaeth ysgubol Andy Burnham yn isetholiad Makerfield ddydd Iau.

Mae’r Prif Weinidog wedi dweud dro ar ôl tro na fydd yn gadael ei swydd, ac y byddai yn ymgeisydd mewn unrhyw etholiad ar gyfer arweinyddiaeth y blaid.

Dywedodd Rhif 10 nad oedd safbwynt Sir Keir wedi newid ers dydd Gwener, pan ddywedodd na fydd yn “gadael” Downing Street a’i fod yn bwriadu sefyll mewn unrhyw gystadleuaeth os oes her i'w awdurdod.

Ond mae nifer yr Aelodau Seneddol Llafur sy’n galw ar Starmer i fynd bellach wedi codi dros 100 ac mae'r Guardian yn adrodd bod tîm Andy Burnham yn gobeithio denu cefnogaeth 300 ohonyn nhw gan sicrhau nad oes cystadleuaeth o gwbl.

Dywedodd AS Gorllewin Casnewydd ac Islwyn, Ruth Jones ei bod hi am weld dechrau'r broses o "drosglwyddo" grym.

"Mae hynny'n golygu Keir Starmer yn camu o'r neilltu er mwyn gadael i etholiad, os oes angen etholiad, ddigwydd," meddai wrth raglen Sunday Supplement.

"Mae angen i rywun ddweud wrth Keir bod yr ysgrifen ar y mur."

Dywedodd AS Gŵyr Tonia Antoniazzi wrth yr un rhaglen bod pobl Cymru yn "teimlo eu bod nhw wedi cael eu siomi gan Keir Starmer". 

"Maen nhw eisiau gweld newid, ac mae'n sefyllfa drist iawn i fod ynddi," meddai.

"Gadewch i ni fod yn onest, mae Keir yn ddyn da iawn, ond mae'r wlad, a Chymru yn arbennig, yn gweiddi am newid."

'Dim awdurdod'

Mae rhai o ffigyrau mwyaf blaenllaw Llafur hefyd wedi codi llais, gyda’r cyn-ysgrifennydd cartref Alan Johnson yn dweud y dylai Sir Keir gamu o’r neilltu.

Dywedodd yr arglwydd Llafur Charlie Falconer nad oes gan Sir Keir “ddim awdurdod o gwbl” oherwydd bod “pawb yn cymryd yn ganiataol” fod Mr Burnham yn mynd i’w herio a’i drechu.

Dywedodd cyn-ddirprwy arweinydd y blaid, y Farwnes Harriet Harman, ei bod yn disgwyl i Sir Keir adael ei swydd ac i Mr Burnham gymryd ei le.

Mae’n debyg bod y Prif Weinidog yn Chequers gyda’i wraig, Lady Victoria, y penwythnos hwn, ac mae adroddiadau’n awgrymu ei fod yn ystyried beth i’w wneud nesaf.

Dywedodd un o’i gynghreiriaid wrth The Sun bod yna “25% siawns y bydd yn dal ati nawr”.

Mae ffigyrau blaenllaw o fewn y Blaid Lafur yn credu y gallai “datganiad clir” ddod mor fuan â dydd Llun, yn ôl The Observer.

Mae rhai yn San Steffan yn credu y gallai cystadleuaeth ddechrau mor fuan â’r wythnos nesaf, ond mae cefnogwyr Mr Burnham o blaid aros yn hirach er mwyn rhoi cyfle iddyn nhw baratoi ar gyfer llywodraethu.

Mae’n debyg bod Mr Burnham eisiau i Sir Keir nodi ei gynlluniau yn y dyddiau nesaf, ond y bydden nhw’n derbyn amserlen a fyddai’n ei gadw yn Rhif 10 tan fis Medi.

Mae disgwyl i Aelod Seneddol newydd Makerfield gyrraedd San Steffan ddydd Llun i dyngu llw yn Nhŷ’r Cyffredin.

Mae adroddiadau’n awgrymu ei fod yn bwriadu siarad â Sir Keir wedyn a chyflwyno rhestr o gefnogwyr iddo mewn ymgais i roi pwysau arno i ddweud y bydd yn ymddiswyddo.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.