‘Aelodau Llafur yn y Senedd a San Steffan ar fai am golli Cymru’
Mae un o ASau y Blaid Lafur wedi dweud bod gwleidyddion y blaid yn y Senedd ac yn San Steffan ar fai am ganlyniad etholiadol trychinebus y blaid ym mis Mai.
Dywedodd Tonia Antoniazzi fod “pethau wedi syrthio’n ddarnau” i’r blaid a’u bod nhw “wedi colli Cymru”.
Fe gollodd y Blaid Lafur 21 o seddi yn etholiad y Senedd, gan orffen ar naw yn unig, er bod y siambr wedi ehangu o 60 i 96 aelod.
O ganlyniad, nid yw’r blaid mewn llywodraeth yng Nghymru am y tro cyntaf ers dechrau datganoli, gyda Phlaid Cymru yn cymryd yr awenau yn eu lle.
Dywedodd Tonia Antoniazzi fod angen i’r Prif Weinidog, Keir Starmer "fynd" ond rhybuddiodd nad oedd modd “rhoi’r bai i gyd ar un dyn”.
“Mae Llafur Cymru a Llafur y DU ar fai am hyn,” meddai. “O’r aelodau, i aelodau’r Senedd i’r ASau Cymreig.
“Dydyn ni ddim wedi bod ar y llwybr a fyddai wedi mynd â ni i’r lle cywir.
“Mae pobl eisiau newid, maen nhw eisiau cael eu cydnabod, maen nhw eisiau i rywun wrando arnyn nhw.”
Roedd rhywfaint o bwyntio’r bys wedi bod ar ôl etholiad mis Mai o ran ai Llafur yn y Senedd ynteu Llafur yn San Steffan oedd ar fai am y canlyniad.
Ymosododd cyn-Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, ar ASau Llafur Cymru yn San Steffan, gan ddadlau bod diffyg datganoli grym wedi bod yn ffactor arwyddocaol.
Dywedodd fod ei blaid ei hun wedi gwanhau "pwynt gwerthu unigryw" Llafur o gefnogi Cymru i gael mwy o reolaeth dros ei materion ei hun o fewn y Deyrnas Unedig.
Ond fe wnaeth Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens, gyhuddo Llafur Cymru o dan arweinyddiaeth y cyn-Brif Weinidog o anwybyddu "y materion bara menyn y mae pobl yn poeni fwyaf amdanynt".
Cyfeiriodd yn benodol at gyfyngiadau cyflymder 20mya a defnydd Llywodraeth Cymru o £270,000 y flwyddyn i ariannu plannu coed yn Mbale, Uganda.
Dywedodd Tonia Antoniazzi ei bod hi'n credu mai cyfathrebu y blaid oedd wedi eu gadael nhw i lawr, yng Nghymru ac yn Llundain.
"Rhaid i ni gael ein hunaniaeth ein hunain," meddai. "Rhaid i ni gael arweinydd sydd â, ac mae'n gas gen i ddweud hyn, carisma ac sy'n gallu dod â phobl gyda nhw.
"Rydyn ni wedi gwneud pethau gwych ers i ni fod yn y llywodraeth. Sut ydych chi'n cyfleu'r neges honno?
"Mae'r cyfathrebu wedi bod yn ofnadwy. Mae hynny'n dangos nad oes gan Keir y sgiliau arweinyddiaeth i allu dod â phobl gyda fe, ac i gyfleu'r neges honno.
"Hyd yn oed yn fy swyddfa i, fy staff i, mae pawb yn rhwystredig ynglŷn â sut nad ydyn ni'n cyfleu'r neges honno.
"Fe welson ni hynny yng Nghaerffili, a dysgu dim ohono."