John Gizzi yn gwadu cyhuddiadau o ymosod a bygwth cyn-bartner
Mae dyn 55 oed o Lanelwy yn Sir Ddinbych wedi pledio’n ddieuog i sawl cyhuddiad o droseddau yn ymwneud â thrais domestig, gan gynnwys ymgais i achosi niwed difrifol i’w gyn-bartner.
Mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Mercher, fe wadodd John Gizzi o Heol Cwttir yn Llanelwy, gyhuddiadau yn ymwneud â throseddau honedig yn erbyn Ms Natasha Farah.
Clywodd y llys fod y cyhuddiad yn cynnwys sawl ymosodiad honedig ar Ms Farah rhwng mis Gorffennaf 2025 a mis Mawrth 2026.
Mae hefyd yn gwadu achosion o dagu bwriadol, ac o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.
Wrth ymddangos o flaen y Barnwr Nicola Jones dros gyswllt fideo o’r ddalfa yng ngharchar HMP Berwyn, plediodd Mr Gizzi’n ddieuog i bob cyfrif.
Bydd gwrandawiad i drafod yr achos yn cael ei gynnal ar 17 Gorffennaf, ac mae disgwyl i’r achos yn erbyn Mr Gizzi ddechrau ar 12 Hydref.