Jôcs am Mr Urdd yn NYC: Ymateb 'gwych' cynulleidfaoedd America i ddrama Gymraeg boblogaidd
Mae un o sêr drama Gymraeg boblogaidd aeth ar daith i America yn dweud bod cynulleidfaoedd yn Efrog Newydd a Massachusetts wedi ymateb yn “wych” i’r perfformiadau - er mai nid pawb, efallai, wnaeth ddeall y jôcs am Mr Urdd.
Cafodd cynhyrchiad Theatr Cymru o ddrama Gruffudd Owen, Parti Priodas, ei berfformio ddwywaith yn yr Unol Daleithiau ddechrau Medi, gan greu hanes drwy ymddangos mewn theatr Off-Broadway, wrth galon canolfan theatrig ddylanwadol Efrog Newydd.
Roedd y sioe - sy’n archwilio tensiynau teuluol a newid cymdeithasol ar ddydd priodas yng nghefn gwlad Llŷn - hefyd yn un o brif berfformiadau Gŵyl Cymru Gogledd America, oedd yn cael ei chynnal yn Springfield, Massachusetts ychydig ddyddiau ynghynt.
Yn ôl Mark Henry-Davies, oedd yn serennu yn y cynhyrchiad ochr-yn-ochr â Mared Llywelyn, roedd y daith yn “freuddwyd” na fyddai fyth wedi gallu ei dychmygu pan berfformiwyd y ddrama am y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Boduan yn 2023.
“O’dd o'n anhygoel i allu mynd draw i gael cynrychioli Cymru dramor,” meddai Mark, sy’n hanu o Gricieth yng Ngwynedd.
“Fel hogyn ifanc o’dd rywun yn breuddwydio am wneud hynny mewn cit coch pêl-droed, ond na, mewn siwt du ar lwyfan oedd hi'n y diwedd!”
Fe ddenodd y ddrama, sydd wedi ei chyfarwyddo gan Steffan Donnelly, lawer o ganmoliaeth ar lawr gwlad ac ymhlith y beirniaid wedi’r llwyfaniad cyntaf ym mhrifwyl 2023, gyda nifer yn canmol y cyfuniad o’r dwys a’r lleddf yn y sgript ac ym mherfformiadau’r actorion.
Yn ôl Mark, mae nifer o’r themâu sydd wrth ei chalon - fel methiant teuluoedd i gyfathrebu - yn gyffredin i sawl diwylliant, gan alluogi i gynulleidfaoedd yn yr UDA uniaethu â hi, hyd yn oed os oedd rhai o’r cyfeiriadau diwylliannol yn estron iddyn nhw.
“Mi oedd yr ymateb yn wych,” meddai.
“Pan wnaethon ni ei wneud o yn yr ŵyl yn Massachusetts roedd ‘na lot o bobl yn siarad Cymraeg, pobl oedd wedi symud ar ôl cael eu magu yng Nghymru, felly doeddet ti ddim yn cael blas os oedd y stori a’r jôcs yn cyfieithu, achos roedd gan lot rhyw fath o syniad yn barod.
“Ond pan aethon ni i Efrog Newydd, oeddan ni’n siarad i’r gynulleidfa ar ôl y sioe, a lot ohonyn nhw’n Americanwyr efo dim syniad be’ oedden nhw’n dod i’w weld.
“Roedden nhw’n dweud fod Gruff wedi dal rhywbeth efo sut mae teuluoedd efo’i gilydd, sut mae pobl mewn priodasau, a sut mae pobl o genhedlaeth sydd ychydig yn hŷn yn methu siarad efo’i gilydd.
Ychwanegodd: “Yn amlwg, mae ‘na un neu ddau o jôcs [penodol] - dwi ddim yn meddwl bod y dyn o Seattle yn gwybod yn union pwy oedd Mr Urdd - ond roedden nhw’n dal yn gallu ei fwynhau o am be’ oedd o.
“A dwi’n meddwl efallai mai dyna’r pethau gora’ mae Gruff wedi gallu gwneud efo’i waith, bod o’n gallu cael ei wneud mewn unrhyw iaith, bron.”
Dywedodd Mark fod y daith wedi bod yn gyfle i gyfarfod “cymeriadau” difyr oedd yn y gynulleidfa, gan gynnwys Americanwyr sydd wedi dysgu’r Gymraeg ac yn frwd drosti.
Ond roedd hefyd yn gyfle i’r actorion ddod i ail-adnabod y cymeriadau ar y llwyfan hefyd, cyn i’r dilyniant i Parti Priodas, Te Angladd, ymddangos mewn theatrau yn 2027.
“Mae o 'di bod yn help mawr, actually, i gyfarfod y cymeriadau 'ma i gyd eto, ‘chos yn amlwg dydy Mared Llewelyn - sy’n chwarae Lowri a chymeriadau eraill - a fi - sy’n chwarae Idris a chymeriadau eraill - heb ‘di gwneud y sioe yma ers dwy flynedd.
“‘Dan ni’n lwcus i allu teithio Te Angladd rownd Cymru yn fuan blwyddyn nesaf ac oedd gael ymgysylltu efo'r cymeriadau yma i gyd eto yn helpu ni i’w hastudio nhw jest cyn i Gruff roi’r sgript newydd.
“Dwi’n gobeithio cael o yn yr wythnosau neu’r misoedd nesa' cyn dechrau gweithio arni yn mis Ionawr, felly dwi wir yn edrych ymlaen a mi wnaeth y profiad yma helpu.
“Fydd rhaid i chi ddod i weld sut mae'r ddau yn ffêrio erbyn hyn!”
Lluniau: Marcus Middleton/Theatr Cymru
