Jess Fishlock i ymuno â thim hyfforddi Cymru ar gyfer un gêm ym mis Mawrth
Fe fydd Jess Fishlock yn ymuno â thim hyfforddi Cymru ar gyfer gêm agoriadol Cymru yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd Brasil 2027.
Fe wnaeth prif sgoriwr Cymru ymddeol o bêl-droed rhyngwladol ym mis Hydref, ond mae'n parhau i chwarae i dîm Seattle Reign yn America.
Fe fydd Fishlock yn ymuno â phrif hyfforddwr Rhian Wilkinson fel cynorthwyydd technegol ar gyfer y gêm agoriadol yn erbyn y Weriniaeth Tsiec ar 3 Mawrth yn yr ymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd 2027.
Ni fydd Fishlock yn bresennol ar gyfer yr ail gêm yn erbyn Montenegro bedwar diwrnod yn ddiweddarach a hynny oherwydd paratoadau Reign yn y tymor newydd fis Ebrill.
Dywedodd Rhian Wilkinson: "Mae hi'n amlwg yn y paratoadau cyn y tymor gyda Seattle felly diolch yn fawr i Seattle a'i hyfforddwr Laura Harvey am adael i ni ei benthyg hi ar gyfer dechrau'r ymgyrch."
Fe fydd cyn gyd-chwaraewr Fishlock, Kayleigh Barton, sydd wedi bod yn gweithio gyda charfan dan-17 Cymru ers ymddeol, hefyd yn rhan o dîm hyfforddi y tîm cenedlaethol ar gyfer yr ymgyrch.
Ychwanegodd Wilkinson: "Mae'r rhain yn fenywod sydd wedi rhoi popeth dros eu gwlad ac wrth i'n chwaraewyr ifanc ni ddatblygu rwan, dwi'n meddwl fod cael y gefnogaeth gan y chwaraewyr hynny yn rhan o'r amgylchedd yn enfawr."
Y gêm yn erbyn y Weriniaeth Tsiec fydd gêm gystadleuol gyntaf Cymru ers Euro 2025.
Llun: Asiantaeth Huw Evans