Iran yn dewis Mojtaba Khamenei yn arweinydd newydd
Mae'r awdurdodau yn Iran wedi dewis Mojtaba Khamenei yn arweinydd newydd ar y wlad.
Mae'n fab i Ayatollah Ali Khamenei, gafodd ei ladd mewn ymosodiad milwrol ar ddechrau'r rhyfel rhwng Israel a'r UDA a lluoedd Iran dros wythnos yn ôl.
Cafodd ei ddewis gan Gynulliad o Arbenigwyr ac mae ei benodiad yn cadarnhau'r amheuon ei fod wedi dylanwadu ar arweinyddiaeth ei dad yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Nid yw wedi bod yn ffigwr cyhoeddus yn Iran, ac nid yw wedi cael ei gyfweld yn gyhoeddus hyd yma chwaith.
Cafodd y newyddion am ei benodiad ei gyhoeddi ar deledu'r wlad mewn datganiad oedd yn dweud:
“Er gwaethaf yr amodau rhyfel llym a bygythiadau uniongyrchol y gelynion yn erbyn y sefydliad poblogaidd hwn, ac er gwaethaf bomio swyddfeydd Ysgrifenyddiaeth Cynulliad yr Arbenigwyr, a arweiniodd at ferthyrdod sawl aelod o staff ac aelodau o’i dîm diogelwch, ni wnaeth oedi hyd yn oed am eiliad yn y broses o ddewis a chyflwyno arweinyddiaeth y system Islamaidd.”
Yn y cyfamser mae pris olew wedi cynyddu i dros $100 y baril am y tro cyntaf ers 2022, wrth i'r gwrthdaro yn y Dwyrain Canol barhau.
Mae disgwyl y bydd hyn yn arwain at gynnydd mewn prisiau petrol yma yn fuan.
Fe fydd y Canghellor Rachel Reeves yn cymrhyd rhan mewn cyfarfod brys o weinidogion ariannol gwledydd y G7 yn ddiweddarach dydd Llun i drafod y cynnydd ym mhris olew.
Bydd y cyfarod yn cael ei gadeiryddio gan Ffrainc, ac fe fydd yn dechrau am 13:30 ddydd Llun.
Llun: Reuters
