Iran yn cau Culfor Hormuz ac yn cyhuddo Israel ac America o dorri’r cytundeb cadoediad

Culfor Hormuz

Mae Iran wedi dweud eu bod nhw’n cau Culfor Hormuz ac wedi cyhuddo’r UDA ac Israel o dorri’r cytundeb am gadoediad ar ôl i Israel barhau i ymosod ar Libanus.

Mae cennad arbennig Donald Trump, Steve Witkoff ar ei ffordd i’r Swistir ar gyfer trafodaethau cychwynnol ar gyfer cytundeb niwclear posib gydag Iran.

Mae gweinidog tramor Iran, Abbas Aragchi hefyd ar ei ffordd yno yn ôl adroddiadau.

Fe fydd mab yng nghyfraith Donald Trump, Jared Kushner, sydd eisoes yn y Swistir, hefyd yn ymuno â Witkoff.

Daw cyhoeddiad Iran yn dilyn ymosodiad gan Israel ar Libanus lle cafodd 16 o bob leu lladd yn ôl gwasanaeth amddiffyn sifil Libanus.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.