'Hynod falch': Menyw o Lanymddyfri i hedfan balŵn aer poeth ei diweddar ŵr

Arwel a Laura Davies
Arwel a Laura Davies

Bydd gweddw dyn o Sir Gâr yn hedfan balŵn aer poeth ei diweddar ŵr mewn gŵyl a sefydlodd er cof amdano.

Bu farw gŵr Laura Davies, Arwel, yn 40 oed mewn damwain drasig ym mis Gorffennaf 2021 ar ffordd yr A40 ger Llandeilo.

Yn dilyn ei farwolaeth, sefydlodd Ms Davies Ar y Gorwel - gŵyl balŵn aer poeth blynyddol yn Nyffryn Tywi sy'n codi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru.

Dros ŵyl y banc, bydd y digwyddiad yn dychwelyd i Glwb Rygbi Llanymddyfri lle'r oedd Arwel yn gyn-chwaraewr a hyfforddwr poblogaidd.

Yn ôl Ms Davies, sy’n 42 oed ac yn byw yn Llanwrda, mae'r ŵyl eleni yn "garreg filltir fawr".

"Rydym nid yn unig yn dathlu pumed pen-blwydd gŵyl Ar y Gorwel, ond hefyd ei llwyddiant," meddai.

"Mae’n parhau i dyfu o flwyddyn i flwyddyn, gyda 15 o falŵnau aer poeth yn rhan o’r penwythnos - y tro cyntaf i hynny ddigwydd.

"Ac ar nodyn mwy personol, dyma fydd y tro cyntaf i mi gymryd rhan fel peilot, felly mae llawer o emosiynau ynghlwm. 

"Rwy’n teimlo’n hynod falch."

'Gwirioneddol arbennig'

Ms Davies yw'r fenyw gyntaf ers dros 40 mlynedd i ddysgu sut i hedfan balŵn aer poeth a chael trwydded peilot yng Nghymru.

Daw ei llwyddiant ar ôl iddi osod her o hedfan balŵn aer poeth ei gŵr, gan obeithio y byddai’r balŵn yn "dychwelyd i’r awyr".

"Roeddwn i’n rhan o griw fy ngŵr am 13 o flynyddoedd, felly mae gwneud hyn er cof amdano, o flaen ein teulu a’n ffrindiau, yn wirioneddol arbennig," meddai.

Roedd eu merch Sofia, a oedd yn saith oed ar y pryd, hefyd yn rhan o’r ddamwain ym mis Gorffennaf 2021.

Cafodd dau dîm gofal critigol Ambiwlans Awyr Cymru eu hanfon i’r safle, ond er gwaethaf ymdrechion y criw, bu farw Arwel yn y fan a’r lle.

Cafodd Sofia ei chludo mewn hofrennydd i’r ganolfan drawma fawr, lle cafodd ei hasesu gan y tîm trawma pediatrig.

Ond nid oedd angen triniaeth feddygol arni.

Image
Arwel, Laura a'u plant
Arwel, Laura a'u plant

Dywedodd Laura: "Fel y gallwch ddychmygu, mae ein teulu yn gweld eisiau Arwel bob dydd. 

"Cawsom fywyd mor hyfryd gyda’n gilydd, ac rydym mor ddiolchgar am yr atgofion hyfryd sydd gennym.

"Mae nifer ohonynt yn ymwneud â balŵnau aer poeth, ac mae hynny wedi bod yn etifeddiaeth barhaol Arwel. 

"Rydym yn dal i allu mwynhau’r rhodd a roddodd i ni - gweld ein cartref, ein pentref a rhannau eraill o Gymru o’r awyr."

Mae peilotiaid balŵn o bob rhan o’r DU yn teithio i Sir Gâr i gymryd rhan yn y digwyddiad codi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru.

Mae’r gwasanaeth yn cael ei arwain gan ymgynghorwyr sy'n darparu triniaethau o safon ysbyty i’r claf yn y fan a’r lle ac, os oes angen, eu trosglwyddo’n uniongyrchol i’r ysbyty mwyaf addas ar gyfer eu salwch, neu eu hanaf.

Image
Gwyl Llanymddyfri
Y balwnau aer poeth yng Nghlwb Rygbi Llanymddyfri

Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu ar roddion gan y cyhoedd i godi’r £13 miliwn sydd ei angen bob blwyddyn i gynnal y gwasanaeth.

Mae’r Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys yn darparu ymgynghorwyr y GIG ac ymarferwyr gofal critigol ar gyfer yr elusen.

Mae’r gofal critigol uwch hwn yn cynnwys y gallu i roi anesthetig, darparu trallwysiadau gwaed a chynnal llawdriniaethau yn y fan lle.

Daeth Ms Davies yn ymddiriedolwr i’r elusen yn 2024, ac mae hi, ynghyd â’i theulu a’i ffrindiau, wedi helpu i godi dros £35,000 hyd yma.

"Mae’r elusen yn gwneud gwaith eithriadol, felly mae’n fraint enfawr gallu cynrychioli’r gwasanaeth achub bywyd yn y modd hwn," meddai.

"Rydym bob amser wedi hedfan gyda masgot draig fach Ambiwlans Awyr Cymru, fel symbol o obaith, gwydnwch a chryfder. 

"Ond eleni byddaf, yn llythrennol, yn hedfan y faner a’r baneri hefyd!"

Dywedodd Dr Sue Barnes, Prif Weithredwr Ambiwlans Awyr Cymru: "Mae’r digwyddiad arbennig hwn, a gafodd ei sefydlu er cof am Arwel, yn gwneud gwahaniaeth sy’n achub bywydau. 

"Mae wedi gadael etifeddiaeth hyfryd i bobl Cymru."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.