Hunanladdiad: Dynes yn galw am ymwybyddiaeth o'r help sydd ar gael
Rhybudd: Mae'r erthygl ganlynol yn trafod hunanladdiad.
Mae dynes o Bowys a gollodd ei brawd 21 oed i hunanladdiad yn galw am fwy o ymwybyddiaeth o'r gwasanaethau sydd ar gael i helpu'r rhai sydd wedi eu heffeithio gan farwolaeth rhywun sy'n agos iddynt.
Fe fuodd brawd Mollie Hooper, Tom, farw o hunanladdiad yn 21 oed yn 2024.
Cafodd y ddau eu geni a’u magu mewn cymuned amaethyddol ym Mhowys. Wrth iddyn nhw dyfu’n hŷn, fe aeth Mollie i weithio ym maes amaethyddiaeth, gyda Tom yn y maes adeiladu.
Mae Mollie, 25 oed, wedi penderfynu rhannu ei stori fel rhan o ymgyrch newydd i godi ymwybyddiaeth o'r gwasanaethau cymorth sydd ar gael i gefnogi’r rhai sy’n profi problemau iechyd meddwl a’r rhai sydd o'u cwmpas hefyd.
Yn dilyn marwolaeth Tom, fe gafodd Mollie a'i theulu eu cyfeirio at Wasanaeth Ôl-ymyriad y GIG. Mae'r gwasanaeth yn cefnogi pobl sydd wedi profi profedigaeth oherwydd hunanladdiad, gan gynnig cymorth emosiynol ac ymarferol.
"Roedd y gwasanaeth yn wych," meddai.
"Roedden nhw'n gwybod yn union beth i'w wneud a'n helpu ni trwy bopeth - o ddelio â phobl swyddogol i gael rhywun i siarad â nhw nad oedd yn rhan o'n teulu agos.
"Roedd e jest yn dda gallu siarad â rhywun oedd led braich o bopeth. Pan chi'n mynd trwy rywbeth fel 'na, mae'n anodd meddwl yn glir."
Yn ôl y Samariaid, fe gafodd 436 o hunanladdiadau eu cofrestru yng Nghymru yn 2024, gyda dynion deirgwaith yn fwy tebygol o farw o ganlyniad i hunanladdiad yng Nghymru o’i gymharu â menywod.
Ychwanegodd Mollie fod gwasanaethau ym Mhowys yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi unigolion a theuluoedd, a chymunedau cyfan.
"Does neb yn eich paratoi chi ar gyfer pethau fel siarad â chrwner neu ddelio â phopeth sy'n dod ar ôl hynny," meddai.
"Helpodd y gefnogaeth i'n tywys ni drwy hynna i gyd a chymryd rhywfaint o'r baich ar adeg anodd iawn."
Ochr yn ochr â chefnogaeth broffesiynol, ma Mollie yn dweud fod y gymuned ffermio wedi chwarae rhan hanfodol.
"Mae'r gymuned ffermio yn un glos iawn," meddai.
"Roedd pobl yn barod i helpu gyda phethau o ddydd i ddydd ar y fferm. Gwnaeth wahaniaeth enfawr yn ystod cyfnod llawn straen."
Mae Mollie bellach yn swyddog amgylcheddol ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae hefyd yn cefnogi ei theulu gyda'u gwartheg ac yn deall y pwysau sy'n wynebu cymunedau gwledig.
"Dwi’n gweld yr hyn y mae'n rhaid i ffermwyr ddelio ag e bob dydd. Mae’r oriau’n hir, mae yna bwysau ariannol, a llawer o ansicrwydd," meddai.
"Gall deimlo fel bod yn rhaid i chi fwrw ymlaen â phethau, ond dyw cadw pethau i chi’ch hunan ddim yn helpu.
"Mae yna stigma o hyd, yn enwedig ymysg dynion ifanc. Ond gall siarad â rhywun, os ydyn nhw’n ffrind neu'n wasanaeth, wneud gwahaniaeth mawr."
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae cymorth ar gael yma.